Pobl yn gadael eu cartrefi oherwydd tân mewn hen gapel

tan llanelli Image copyright Jonathan Smith

Mae pedwar criw yn ceisio delio â thân ar safle hen gapel yn Llanelli.

Cafodd y gwasanaeth tân wybod am 19:00 wedi adroddiadau am fflamau a mwg ar safle Capel Annibynwyr Ebeneser yn Stryd Inkerman.

Nid oes adroddiadau fod unrhyw un wedi cael ei anafu.

Mae pobol wedi gorfod gadael tai cyfagos, ac maent yn cael lloches yng nghanolfan hamdden y dref ac mewn bwyty cyfagos.

Mae Stryd Murray a ffyrdd cyfagos wedi cael eu cau.

Dywedodd yr Arolygydd James Davies o Heddlu Dyfed-Powys: "Mae'r eglwys yn wenfflam, ac wedi ei difrodi yn sylweddol.

"Oherwydd pryderon am ddiogelwch, mae nifer fawr o bobl sy'n byw yn yr ardal wedi cael eu symud i fannau diogel."

Mae achos y tân yn cael ei ymchwilio.

Image copyright Jonathan Smith
Image copyright Jonathan Smith
Image copyright Jonathan Smith