Cwpan Pêl-rwyd: Lloegr 78-33 Cymru

Sonia Mkoloma Image copyright Getty Images

Fe gafodd Cymru eu trechu o 78-33 gan Lloegr yng Nghwpan Pêl-rwyd y Byd fore Mercher, sy'n golygu eu bod bron yn bendant i fethu allan ar y medalau.

Fe wnaeth Lloegr ruthro ar y blaen i arwain o 42-16 ar yr hanner, ac er i'r Cymry gael eu cyfnod cryfaf yn y drydydd chwarter, doedd dim dal y Saeson.

Golyga'r canlyniad bod Cymru yn parhau ar waelod Grŵp F wedi iddyn nhw gael eu trechu ddwywaith yn olynol yn Sydney.

Bydd y Cymry yn wynebu'r pencampwyr byd, Awstralia, ddydd Gwener, yn beth sy'n debygol o fod eu gêm olaf yn y gystadleuaeth.

Mae Suzy Drane, capten y tîm, wedi bod yn trafod gobeithion carfan merched Cymru yn y gystadleuaeth gyda Cymru Fyw.