Arweinyddiaeth Llafur: Ymgyrch Corbyn yn dod i Gymru

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Getty Images
disgrifiad o’r llunMae Liz Kendall, Andy Burnham, Yvette Cooper a Jeremy Corbyn i gyd yn gobeithio olynu Ed Miliband

Mae Jeremy Corbyn yn dod â'i ymgyrch ar gyfer arweinyddiaeth Llafur i Gymru, ddyddiau cyn i'r papurau balot gael eu hanfon allan.

Mae'r gwleidydd profiadol asgell chwith wedi ennill cefnogaeth mwy o bleidiau etholaethol yng Nghymru a'r DU na'r tri ymgeisydd arall.

Bydd Mr Corbyn yn ymweld â Llandudno a Chei Connah ddydd Llun a Thredegar a Chaerdydd ddydd Mawrth.

Mae Andy Burnham, Yvette Cooper a Liz Kendall hefyd yn y ras.

Mae nifer o ffigyrau amlwg gan gynnwys y cyn Brif Weinidog Tony Blair wedi awgrymu y byddai plaid Lafur o dan arweiniad Mr Corbyn yn cael ei hystyried yn rhy eithafol gan bleidleiswyr.

Dydy'r Prif Weinidog Carwyn Jones ddim wedi cefnogi un o'r ymgeiswyr yn gyhoeddus, ond mae e wedi dweud y byddai Jeremy Corbyn yn "ddewis anarferol" fel arweinydd nesaf Llafur.

Bydd yr enillydd yn cael ei enwi ar 12 Medi.