Menyw wedi marw wedi tân ym Mhenarth
- Cyhoeddwyd

Mae menyw yn ei hwythdegau wedi marw wedi tân ym Mhenarth ym Mro Morgannwg.
Derbyniodd y gwasanaethau brys alwad am 04:18 fore Sul ac aeth tri chriw o ddiffoddwyr i'r tŷ yn Hastings Close.
Diffoddwyd y tân, ond cofnodwyd marwolaeth y wraig yn y fan a'r lle. Mae ei theulu wedi cael gwybod.
Mae'r gwasanaeth tân a'r heddlu yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i sefydlu beth oedd achos y tân, ond dydyn nhw ddim yn credu ei fod yn un amheus.