Rali GB i aros yng Nghymru

rali GB
Image caption Mae'r cymalau trwy goedwigoedd Cymru yn uchafwbynt blynyddol i Bencampwriaeth y Byd

Mae Rali GB Cymru wedi sicrhau cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru am dair blynedd arall.

Mae'r cytundeb yn golygu bydd y ras yn parhau i gael ei chynnal yn y gogledd tan 2018 o leiaf.

Rali GB yw cymal Prydain o Bencampwriaeth y Byd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r ras yn ariannol ers 2003, ac mae'r penderfyniad yn golygu bydd y ras yn parhau i gael ei frandio fel "Rali GB Cymru".

Deellir fod y swm a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i drefnwyr y rali GB yn £4m.

Mae'r ras eleni yn digwydd ym Mis Tachwedd, ac ers 2013 mae pencadlys y rali wedi ei leoli yn y gogledd.

Image copyright Getty Images

Wrth gyhoeddi'r cytundeb dywedodd y gweinidog yr economi Edwina Hart:

"Mae'r rali'n llwyfan delfrydol i Gymru ddangos ei rhinweddau, yn cynnwys ein tirwedd hardd, y diwydiant cynhyrchu a gallu'r wlad i gynnal digwyddiadau mawr rhyngwladol fel hyn.

Gyda'r cyllid bellach wedi ei gadarnhau, fe allwn ni edrych ymlaen at ddigwyddiad hyd yn oed gwell yn 2016."