Protest Powys
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Galw am ysgol uwchradd Gymraeg i Bowys

4 Awst 2015 Diweddarwyd 21:06 BST

Roedd hyd at 100 o bobl mewn protest ar faes yr Eisteddfod ddydd Mawrth yn galw ar Gyngor Powys i agor ysgol uwchradd Gymraeg yn yr ardal.

Powys yw'r unig sir yng Nghymru heb ysgol uwchradd Gymraeg.

Mae'r cyngor yn cynnal adolygiad o'r ddarpariaeth yn ysgolion uwchradd gogledd y sir ar hyn o bryd, ac mae galwadau i wneud mwy dros addysg Gymraeg.

Mari Grug sydd â'r manylion.