Cau meddygfa ym Maesteg o achos prinder meddygon teulu
- Cyhoeddwyd

Mae'r bwrdd iechyd wedi danfon llythyrau at gleifion yn egluro'r penderfyniad
Bydd Meddygfa Nantyffyllon, Maesteg, yn cau ym Mis Hydref ar ôl i'r meddyg teulu yno ymddeol.
Roedd ymdrechion i lenwi'r swydd wag yn aflwyddiannus oherwydd diffyg ymgeiswyr.
Bydd 2,500 o gleifion yn cael eu trosglwyddo i ofal meddygfeydd cyfagos Bron-y-garn, Llynfi neu Woodlands.
Mae disgwyl i staff y feddygfa gael eu trosglwyddo i swyddi eraill o fewn y bwrdd iechyd.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg eu bod wedi gwahodd meddygon teulu lleol i fynegi diddordeb mewn rheoli'r feddygfa.
"... roedd y broses yn aflwyddiannus gan nad oedd ceisiadau gan feddygon teulu," meddai.
Mae'r bwrdd iechyd wedi addo helpu cleifion yn ystod y broses o drosglwyddo i feddygfa newydd.