Pice bach
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Gohebydd yn beirniadu 'bake off' ym Mhatagonia

3 Awst 2015 Diweddarwyd 11:55 BST

Bu tro ar fyd annisgwyl wrth i Craig Duggan, gohebydd BBC Cymru, fynychu cystadleuaeth cacennau 'pice bach' yn y Wladfa fel rhan o ddathliadau Gŵyl y Glaniad.

Er mai yno i gasglu cyfweliadau oedd Craig, o fewn dim roedd e wedi ei ddewis fel un o'r "beirniaid rhyngwladol."

Roedd e'n "gyfrifoldeb mawr" meddai, ac mi gymerodd e'r gwaith o ddifri.