Dechrau gwaith ar orsaf dân yn Aberystwyth ar gost o £1.6m

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Argraff artist o'r orsaf newydd

Mae gwaith wedi dechrau ar orsaf dân yn Aberystwyth sy'n costio £1.6m.

Bydd yr orsaf newydd ar yr un safle yn Heol Penparcau, Trefechan.

Dywedodd Gwasanaeth Tân y Canolbarth a'r Gorllewin y byddai'n barod o fewn 10 mis.

Bydd y dymchwel yn dechrau yn ddiweddarach yr wythnos hon ac, yn y cyfamser, mae diffoddwyr wedi symud i Ganolfan y Fyddin Dirogaethol.

Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd yr orsaf bresennol ei chodi yn 1962