Dathlu 150 mlynedd ers glaniad y Mimosa yn y Wladfa

Fflagiau
Image caption Bydd digwyddiadau Gŵyl y Glaniad gael eu cynnal yr wythnos hon

Mae digwyddiadau yn cael eu cynnal ym Mhatagonia i nodi union ganrif a hanner ers i'r Cymry cyntaf gyrraedd y Wladfa ac i ddathlu'r cysylltiadau agos rhwng Cymru a'r Ariannin.

Ddydd Llun, bydd Arlywydd yr Ariannin - Cristina Fernandez de Kirchner - yn croesawu Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones.

Bydd y ddau yn mynd i weld cyflwyniad theatrig ym Mhorth Madryn nos Lun, sy'n adrodd hanes yr ymfudwyr cyntaf.

'Corazon Pionero' neu 'Calon Arloesol' yw teitl y cynhyrchiad, fydd yn cynnwys cerddoriaeth a dawnsio ac yn deyrnged i ysbryd y Cymry wnaeth osod gwreiddiau talaith Chubut.

Fe laniodd tua 160 o Gymry ar draeth yn y Bae Newydd, Patagonia ar 28 Gorffennaf 1865.

Roedden nhw wedi teithio dros 7,000 o filltiroedd dros gyfnod o ddau fis ar long fach y Mimosa.

Image caption Mae disgyblion yn dysgu Cymraeg yn rhai o ysgolion talaith Chubut

Cario te oedd swyddogaeth y Mimosa, a chafodd ei haddasu ar frys i gario pobl gan wneud taith a fyddai'n anodd mewn amgylchiadau da yn anoddach fyth.

Roedd nifer o'r ymfudwyr yn sâl yn ystod y daith a bu farw pedwar o blant ar y môr.

Bu farw pedwar arall ar ôl cyrraedd Porth Madryn ac roedd yr amgylchiadau a wynebai'r Cymry yn anodd tu hwnt - llochesi pren ar y traeth a diffyg dŵr yfed, a phellter o 40 milltir i'w deithio ar draws tir diffrwyth er mwyn cyrraedd dyffryn Afon Camwy a fyddai'n cynnig lleoliad ar gyfer sefydlu cartrefi.

Eu gweledigaeth oedd creu Gwladfa Gymreig - rhywle y byddai modd iddyn nhw fyw yn rhydd trwy gyfrwng y Gymraeg, gan arddel eu ffydd anghydffurfiol a chynnal diwylliant Cymreig.

Mae'r iaith Gymraeg yn dal i'w chlywed mewn llefydd fel y Gaiman a Trelew yn nwyrain Patagonia ac yn Esquel a Trevelin yn yr Andes.

Mae disgyblion yn dysgu'r iaith mewn rhai o ysgolion y dalaith ac mae tua 50,000 o bobl Patagonia yn ddisgynyddion i Gymry.

Image caption Bydd Carwyn Jones yn mynychu'r digwyddiadau swyddogol cyntaf ddydd Llun

Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Carwyn Jones: "Yn 1865 camodd dynion, menywod a phlant ar y Mimosa ar gyfer y daith hir a pheryglus i dir pellennig.

"Gadawon nhw Gymru i wneud bywyd newydd i'w hunain, er mwyn rhoi dyfodol gwell i'w teuluoedd, a gwneud eu cartref yn nhalaith Chubut ym Mhatagonia.

"Pan adawon nhw Gymru, aethon nhw â rhan ohoni gyda nhw. Nid yn unig aethon nhw â'r iaith a'n treftadaeth ddiwylliannol unigryw, aethon nhw â'u calon a'u hysbryd Cymreig hefyd.

"Mae 150 o flynyddoedd wedi mynd heibio, ac mae'r rhan fach honno o Gymru yn Ne America yn parhau - mae ein cysylltiad â Phatagonia yn parhau'n gryf."

Bydd Carwyn Jones yn mynychu'r digwyddiadau swyddogol cyntaf ym Mhorth Madryn ddydd Llun cyn i ddigwyddiadau arferol Gŵyl y Glaniad gael eu cynnal ddydd Mawrth, union ganrif a hanner ers i fintai'r Mimosa droedio ar y traeth yno am y tro cyntaf.

Rhagor o gynnwys ar yr holl ddathliadau ym Mhatagonia.