Tân hen dafarn: Ymchwiliad llosgi bwriadol

Gwesty Canolog ym Mlaenclydach Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y tân yng Ngwesty Canolog ym Mlaenclydach

Mae heddlu wedi cyhoeddi eu bod yn trin tân wnaeth wasgaru ar hyd tri llawr hen dafarn yn Rhondda Cynon Taf fel achos o losgi bwriadol.

Mae Heddlu'r De a'r gwasanaeth tân yn ymchwilio i achos y digwyddiad yng Ngwesty Canolog ym Mlaenclydach ychydig cyn 19:30 ddydd Gwener.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dinlle Francis: "Ry'n ni'n credu bod rhywun wedi torri i mewn i'r adeilad. Mae hi'n ffodus iawn nad oedd 'neb yn yr adeilad ac na gafodd unrhyw un eu hanafu."

Roedd tair injan dân yn brwydro yn erbyn y fflamau ar Heol Clydach.

Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw dystion i gysylltu â'r llu ar 101.