Plaid ffeminydd yn targedu etholiad y Cynulliad

Sophie Walker Image copyright PA
Image caption Fe gafodd Sophie Walker ei chadarnhau fel arweinydd Plaid Tegwch i Ferched yr wythnos yma

Mae arweinydd newydd plaid wleidyddol ffeminydd gyntaf y DU wedi dweud ei bod yn disgwyl i'r blaid gael ymgeiswyr ar gyfer etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Fe gafodd Sophie Walker ei chadarnhau fel arweinydd Plaid Tegwch i Ferched yr wythnos yma.

Cafodd y blaid ei sefydlu gan y darlledwraig Sandi Toksvig a'r newyddiadurwraig Catherine Mayer ar ddechrau'r flwyddyn.

Dywedwyd mai'r blaid yw'r un sy'n tyfu gyflymaf yn y DU.

'Amser perffaith'

Yn sgwrsio gyda rhaglen Sunday Supplement BBC Radio Wales, dywedodd Ms Walker ei bod yn "fwy na thebyg" y byddai'r blaid yn targedu seddi yn etholiadau Cymru, Yr Alban a Llundain, yn ogystal â'r Etholiad Cyffredinol nesaf yn 2020.

Dywedodd wrth Vaughan Roderick: "Rydyn ni wedi dewis yr amser perffaith i lansio plaid wleidyddol oherwydd nifer yr etholiadau cynrychiolaeth gyfrannol sydd ar y gorwel.

"Dy'n ni am gael ymgeiswyr ac rwy'n meddwl bod gennym ni gyfle. O feddwl am gyflwr presennol rhai pleidiau gwleidyddol, pwy a ŵyr sut olwg fydd ar y canfas gwleidyddol erbyn 2020?"

Ychwanegodd: "Dy'n ni yn edrych ar yr holl etholiadau yma, ac fe fyddwn ni yn trafod gyda'n aelodau i ddewis pa seddi i dargedu."