Holi llywydd newydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts
- Cyhoeddwyd

Gohebydd BBC Cymru Aled Scourfield fu'n holi llywydd newydd Undeb Amaethwyr Cymru Glyn Roberts wrth i'w Sioe Frenhinol cyntaf fel llywydd ddod i derfyn.
Sut y byddech chi yn disgrifio eich sioe gyntaf fel Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru?
Gwefreiddiol. Dw i'n teimlo 'mod i'n rhedeg o un lle i'r llall ac mae'r adrenaline yn cicio mewn ar brydiau ond dw i'n teimlo bod hi'n braf siarad gyda gwahanol bobl a'r aelodau, a mynd â'r pryderon i'r gwleidyddion a'r bobl sydd yn gwneud polisïau.
Beth yw pryderon mwyaf yr aelodau?
Y pryderon mwyaf yw pris llaeth ac ŵyn. Mae'r ddau ar y llawr. Efo'r ŵyn, y ffactor bwysicaf yw'r gwahaniaeth rhwng gwerth y bunt a'r euro. Yn ychwanegol â phrisiau ŵyn, mae hyn mynd i gael effaith ar werth ein taliadau sengl. Mae hynny yn mynd i fod yn broblem fawr. Mae'r gyllideb ar gyfer y taliadau yn llai oherwydd modiwleiddio. Mae'r ffactorau hyn yn golygu ein bod mewn "storm berffaith" fel diwydiant. 'Da ni'n gwneud ein gorau i drio argyhoeddi'r archfarchnadoedd i gefnogi'r diwydiant llaeth, cig oen ac eidion. Os nag ydyn ni'n mynd i gael pris cynhyrchu gan yr archfarchnadoedd... fydd ganddyn nhw ddim cynnyrch i'w werthu.
Mae dyfodol Ewrop wedi cael tipyn o sylw yn ystod yr wythnos - a'i dyna ble mae'r sialensiau mawr?
Mae'n un o'r sialensiau mwyaf. Roeddwn i yn ffodus iawn o fedru gallu mynd â Chomisiynydd Amaeth Ewrop Phil Hogan i fferm Cadeirydd Pwyllgor Ieuenctid yr Undeb. Fe dreuliais i bedair neu pum awr ar y fferm yn gwyntyllu gwahanol bynciau pwysig. Roedd Mr Hogan yn awyddus i symleiddio'r holl fiwrocratiaeth a gwahanol ffyrdd i wneud yn siŵr bod ni ddim yn cael ein cosbi yn annheg gyda'r taliadau. Y perygl yw pan fyddwn ni'n gwneud camgymeriad anfwriadol 'da ni'n cael ein cosbi yn arw am hynny - sy'n hollol annheg.
Oes 'na le i ffermwyr Cymru brotestio am y sefyllfa - fel mae ffermwyr Ffrainc yn gwneud yn effeithiol iawn?
Mae hi i fyny i'r diwydiant pa mor filwriaethus mae o am fod. Fel undeb gallwn ni ddim ysgogi protestio mawr oherwydd pe bai rhywbeth yn mynd o'i le - mi faswn ni yn gyfrifol. Wedi dweud hynny, dwi'n credu mewn her pan mae cyfle. Mae hi'n bwysig edrych ar bosibiliadau mewn anawsterau.
Beth oedd uchafbwynt eich Sioe?
Cael y fraint o gyfarfod â'r aelodau. Roedd treulio bedair neu pum awr gyda Chomisiynydd Amaeth Ewrop hefyd yn gofiadwy, a'i argyhoeddi o bwysigrwydd amaeth. Roeddwn yn hapus i glywed fod ei mission statement yn debyg iawn i fy ngweledigaeth i. Mae'n rhaid cael amaethyddiaeth gynaliadwy er mwyn sicrhau cymuned gynaliadwy.
Be 'dy chi'n hoffi ei weld yn y Sioe?
Mae ffocws y Sioe wedi newid i fi dros y blynyddoedd diwethaf. Y peth pwysicaf i mi - a'r hyn sydd yn rhoi'r boddhad mwyaf - ydy gweld yr aelodau yn mwynhau eu hunain a bod nhw'n medru dweud eu cwynion a'u pryderon ac ein bod ni'n medru gweithredu. Mae'r Sioe yn ffenest siop arbennig - yn enwedig safon yr anifeiliaid. Mae hi'n hanfodol bwysig i ddyfodol amaeth ein bod ni'n pontio gwlad a thref. Alla i ddim meddwl am ffordd well o wneud hynny na Sioe fel hon.
Oes 'na bethau y byddwch chi yn gwneud yn wahanol fel Undeb?
Mi fyddwn ni'n pwysleisio bod angen sicrhau amaethyddiaeth gynaliadwy o fewn cymunedau cynaliadwy. 'Da chi ddim yn medru cael cymuned gynaliadwy heb amaeth ffyniannus i gynnal y gymuned. Dwi ddim yn siŵr a ydy'r gwleidyddion yng Nghaerdydd yn sylweddoli hynny bob tro.
Beth fydd eich blaenoriaethau chi?
Mae'n rhaid sicrhau taliadau sengl i ffermwyr mor fuan â phosib. Rwy' am edrych ar yr heriau a bod yn bositif. Mae 'na berygl bod ni'n rhedeg pethau lawr wrth edrych yn negyddol. Mae'n rhaid i ni ddathlu'r llwyddiannau. Rwy' am fedru braenaru'r tir i rywun o'r tu allan i fyd amaeth fedru dechrau ar yr ysgol. Fe hoffwn i gloi trwy ddweud hyn: Os ydy cefn gwlad i ffynnu, daw ei faeth o amaethu.