Gwrthdrawiad lori Gwynedd: Dynes wedi marw

Talysarn
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Nantlle yn Nhalysarn

Mae dynes oedrannus wedi marw ar ôl gwrthdrawiad gyda lori ddadlwytho yng Ngwynedd brynhawn Gwener.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Nantlle yn Nhalysarn, a chafodd yr heddlu eu galw am 16:03.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion i'r digwyddiad a dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â nhw ar 101.

Fe gafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor mewn hofrennydd.

Dywedodd yr heddlu mai lori ddadlwytho Ford Transit oedd wedi bod yn y gwrthdrawiad.

Does dim mwy o wybodaeth wedi ei ryddhau.