Creu darlun digidol o gastell hynafol Holt

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Cafodd y castell ei ail-greu gan ddefnyddio cofnodion hanesyddol

Does dim ond adfail ar ôl o Gastell Holt erbyn hyn, ond mae cyfle i weld sut y byddai'r adeilad hynafol wedi edrych ganrifoedd yn ôl, yn dilyn cynllun elusen.

Roedd Castell Holt yn Sir Wrecsam yn un o ffefrynnau'r Brenin Richard II ar ôl cael ei adeiladu yn y 13eg ganrif.

Roedd yn ddyluniad chwyldroadol pan gafodd ei adeiladu, ac yn safle pwysig tan ei ddymchwel yn yr 17eg ganrif.

Gydag arian gan elusen y Castle Studies Trust, mae arbenigwyr wedi ail-greu'r castell yn ddigidol, i roi blas ar sut y byddai'r adeilad wedi edrych.

Cafodd y dyluniad ei greu gyda chymorth cynlluniau hanesyddol, yn ogystal â chanfyddiadau gwaith cloddio diweddar.

Image copyright Castle Studies Trust
Image caption Adfail yn unig sydd ar ôl o'r castell erbyn hyn
Image copyright Castle Studies Trust
Image caption Mae'r dyluniad newydd yn dangos sut y byddai'r castell wedi edrych o'r tu mewn a'r tu allan

Y canlyniad yw fideo digidol yn dangos y castell mewn manylder o'r tu allan a'r tu mewn.

Dywedodd arweinydd y cynllun, Rick Turner: "Mae wedi bod yn llawer o hwyl ceisio datrys diflaniad y castell enwog yma.

"Roedd rhaid i bob darn gwahanol o dystiolaeth gael ei asesu. Y pwysicaf yw'r hyn sy'n dal i fod ar y safle ei hun, yr adfeilion a'r hyn gafodd ei ddarganfod drwy gloddio yn ddiweddar."

Ychwanegodd: "Mae creu rhywbeth gweledol o'r hyn mae'r ffynonellau yn ei ddisgrifio wedi bod yn her. Rydyn ni'n gobeithio ein bod wedi gwneud cyfiawnder a'r castell trawiadol a chymhleth yma."