Ymgyrch gan yr RNLI i rybuddio am beryglon yr arfordir

Bad achub Image copyright RNLI

Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (yr RNLI) wedi lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am beryglon dŵr ar hyd arfordir Cymru.

Wrth lansio'r ymgyrch 'Parchwch y Dŵr' ddydd Iau, cyhoeddodd yr RNLI ffigyrau sy'n dangos bod 19 o bobl wedi marw oddi ar arfordir Cymru y llynedd.

Dywed yr elusen nad oedd 68% o'r bobl hynny a gollodd eu bywydau wedi bwriadu mynd i mewn i'r dŵr ar y pryd.

Fe wnaeth criwiau achub yr RNLI achub 84 o fywydau oddi ar arfordir Cymru yn 2014.

Fe gafodd yr ymgyrch ei lansio gan Jerome Kirby, gafodd ei auchb o'r môr ger Porthcawl gan yr RNLI ar 29 Mehefin.

Bwriad yr ymgyrch yw rhybuddio pobl pa mor anodd yw darogan cyflwr y môr.

18 pob blwyddyn

Mae ffigyrau dros bum mlynedd yn dangos bod 18 o bobl yn marw oddi ar arfordir Cymru bob blwyddyn.

Allan o'r 89 o bobl fu farw dros y pum mlynedd diwethaf, roedd 57% ohonyn nhw yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel cerdded, rhedeg neu ddringo - ble nad oedd bwriad ganddyn nhw i fynd i'r dŵr.

Bu farw'r mwyafrif (31%) o achosion ar ôl llithro neu faglu i'r dŵr, ac mae dynion yn llawer mwy tebygol o fynd i drafferthion (74%) o gymharu gyda merched.

Hanes Jerome Kirby

Fe gafodd Jerome Kirby o Gaerdydd ei achub o'r môr tra'n ton-fyrddio ger Porthcawl. Roedd y dyn 27 oed wedi mynd i drafferthion wedi iddo geisio nofio yn erbyn y cerrynt.

Esboniodd Mr Kirby: "Ni allaf bwysleisio pa mor hawdd yw mynd i drafferthion. Un funud roeddwn i'n hollol iawn ac roeddwn yn gallu gweld pobl o fy amgylch, a'r funud nesaf roeddwn i allan o fy nyfnder, yn arnofio i mewn i sefyllfa berygl ac nid oedd modd i mi ddod yn ôl.

"Fe fues i'n brwydro yn erbyn y cerrynt am 20 munud, ac yn blino mwy a mwy ac yn agosáu at y creigiau. Fe ddigwyddodd mor hawdd mewn lle oedd yn edrych mor ddiogel."

Fe welodd un o wirfoddolwyr yr RNLI, Chris Page, Mr Kirby yn mynd i drafferthion. Nofiodd tuag ato a sicrhau nad oedd yn boddi nes daeth y bad achub i'w gynorthwyo.

Ychwanegodd Mr Kirby: "Yn ffodus fe welodd Chris fi ac fe awgrymodd y dylwn i nofio i ffwrdd o'r creigiau cyn nofio tuag ata i - pan ddaeth ata i a phan roeddwn yn gwybod fod y bad achub ar y ffordd, roeddwn yn gwybod fy mod yn ddiogel.

"Y prif beth i mi ei ddysgu o'r profiad a fy nghyngor i bobl fyddai i fynd i'r môr gyda rhywun arall neu sicrhau fod rhywun yn gallu eich gweld.

"Diolch byth roedd gan fy stori ddiweddglo hapus, a dyna pam rwy'n erfyn ar bobl i barchu'r dŵr a pheidio bod yn un o'r ystadegau."

Image copyright Mike Howland

Gobaith yr RNLI yw haneru marwolaethau oddi ar yr arfordir erbyn 2024. Mae'r ymgyrch eleni'n gobeithio rhybuddio pobl - ac yn enwedig dynion - i fod yn ofalus o beryglon yr arfordir, nid y dŵr yn unig.

Dywedodd Nicola Davies, Rheolwr Lleihau Digwyddiadau Cymunedol dros Gymru yr RNLI: "Fyddai'r mwyafrif o bobl sy'n mynd am dro neu redeg ar hyd yr arfordir ddim yn ystyried bod ymgyrch rhag boddi fel hon yn berthnasol iddyn nhw gan nad oes bwriad ganddyn nhw i fynd i fynd i mewn i'r dŵr.

"Ry'n ni'n rhybuddio pobl os ydyn nhw'n mynd yn agos at y dŵr, beth bynnag yw'r gweithgaredd, i fod yn ofalus. Gall beryglon annisgwyl fel creigiau llithrig, tonnau sydyn neu dir ansad greu problem i unrhyw un."

Ar hyd a lled y DU, bu farw 163 o bobl ger yr arfordir y llynedd. Bydd ymgyrch yr RNLI yn para am weddill yr haf yn y DU ag Iwerddon.

Straeon perthnasol