Arestio dyn wedi tân mewn pedwar tŷ yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwasanaethau brys wedi delio gyda thân mewn pedwar tŷ teras yng Nghaerdydd.
Dywed Heddlu'r De fod dyn lleol 33 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi difrod troseddol.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i Stryd Allerton yn Grangetown am 15:20.
Y gred yw bod y tân wedi dechrau ar lawr cyntaf un o'r tai cyn lledaenu i'r tai eraill.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân eu bod wedi cael mynediad i dai agos i atal y tân rhag lledaenu ymhellach.
Does dim adroddiadau o anafiadau.