Dirwy o £500 i fenyw am iaith hiliol yn erbyn Cymraes
- Cyhoeddwyd

Roedd yr achos yn Llys Ynadon Caernarfon
Yn Llys Ynadon Caernarfon mae menyw, oedd yn tywys twristiaid o amgylch Cymru, wedi cael dirwy am ymddygiad bygythiol a defnyddio iaith anweddus a hiliol yn erbyn Cymraes.
Honnodd Irene Laird, 64 oed o Loegr ond yn byw yn Rhosgadfan ger Caernarfon, nad oedd hi'n hiliol.
Ond fe'i cafwyd yn euog o ddefnyddio iaith hiliol ac o ymosod ar Gwladys Jones yn ardal Caernarfon.
Clywodd y llys nad oedd yr ymosodiad yn gysylltiedig â'i gwaith.
Cafodd Laird ddedfryd ohiriedig o 60 diwrnod, dirwy o £500, gorchymyn i dalu iawndal o £1,000 a chostau o £930.
Hefyd cafodd orchymyn atal fydd yn para am bum mlynedd.