Le Tour: Geraint Thomas yn helpu Chris Froome i'r brig

Joaquim Rodriguez Image copyright Getty Images
Image caption Joaquim Rodriguez yn curo Chris Froome i ennill y trydydd cymal

Chwaraeodd Geraint Thomas rôl allweddol wrth dywys Chris Froome i'r ail safle yn nhrydydd cymal y Tour de France.

Froome, cyd-aelod Thomas yn Team Sky, sydd bellach yn arwain y ras gydag eiliad o fantais dros Tony Martin.

Joaquim Rodriguez enillodd y cymal dramatig o Anvers i Huy yng Ngwlad Belg ddydd Llun.

Ddwywaith bu'n rhaid i seiclwyr rhoi'r gorau i rasio am gyfnod yn dilyn damweiniau difrifol.

Llwyddodd Thomas i osgoi'r miri a chadw ymysg y ceffylau blaen. Daeth ei waith caled wrth dywys Froome i ben gyda dau kilometr yn weddill, gan adael prif seiclwr Team Sky i rasio tan y llinell derfyn.

Roedd yn rhaid iddo fodloni ar yr ail safle, serch hynny, wrth i Rodriguez orffen gryfaf. Gorffennodd Thomas funud a 10 eiliad yn ddiweddarach, ac mae o'n nawfed safle wedi tri chymal (+1:03").

Roedd hi'n ddiwrnod hynod foddhaol i Froome wrth iddo adeiladu mantais dros ei brif wrthwynebwyr. Dyma'r tro cyntaf i'r Prydeiniwr wisgo'r crys melyn ers ennill y ras yn 2013.

"Mae'n rhaid i mi ddiolch i aelodau'r tîm am gadw fi'n ddiogel," meddai Froome.

"Fyddwn i ddim yn dweud bod hi'n rhy gynnar i gymryd y crys melyn. Mae'n well gen i fod yn y sefyllfa yma na bod ar ei hôl hi."

Canlyniadau'r trydydd cymal:

1. Joaquin Rodriguez (SBAEN/KAT) 3:26':54"

2. Chris Froome (Y DU/SKY) yr un amser.

3. Alexis Vuillermoz (FFRA/ALM) at +4"

4. Daniel Martin (IWER/CAN) +5"

5. Tony Gallopin (FFRA/LOT) +8"

Y 10 uchaf wedi tri chymal:

1. Chris Froome (Prydain / Team Sky) 7:11:37"

2. Tony Martin (Almaen / Etixx - Quick-Step) +1"

3. Tejay van Garderen (UDA / BMC Racing) +13"

4. Tony Gallopin (Ffrainc / Lotto) +26"

5. Greg Van Avermaet (Belg / BMC Racing) +28"

6. Peter Sagan (Slofacia / Tinkoff - Saxo) +31"

7. Rigoberto Uran (Colombia / Etixx - Quick-Step) +34"

8. Alberto Contador (Sbaen / Tinkoff - Saxo) +36"

9. Geraint Thomas (Prydain / Team Sky) +1:03"

10. Zdenek Stybar (Gweriniaeth Czech / Etixx - Quick-Step) +1:04"