Cynlluniau addysg Gymraeg yn ddiffygiol?

Meri Huws
Image caption Fe fydd Meri Huws yn dweud wrth y cynulliad ddydd Mercher mai "y gyfundrefn addysg yw'r brif ffynhonnell siaradwyr Cymraeg newydd"

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dweud fod cynlluniau strategol cynghorau i ddiwallu gofynion addysg Gymraeg yn ddiffygiol.

Mewn tystiolaeth i bwyllgor addysg y Cynulliad ddydd Mercher, fe fydd Meri Huws yn dweud mai "y gyfundrefn addysg yw'r brif ffynhonnell siaradwyr Cymraeg newydd erbyn hyn. Mae'n dilyn o hynny y bydd twf y Gymraeg yn y dyfodol yn ddibynnol i raddau helaeth iawn ar dwf addysg Gymraeg."

Yn 2010/11 roedd 74,277 o ddisgyblion yn derbyn eu haddysg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, sy'n 15.9% o holl ddisgyblion Cymru.

Erbyn 2013/14 roedd y ffigwr yn 72,868 neu 15.7%

Yn ôl Meri Huws: "Awgryma'r dystiolaeth uchod na fu twf mewn addysg Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn er gwaethaf y galw cynyddol a welwyd am addysg Gymraeg.

"O ystyried y collir rhai miloedd o siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn am resymau amrywiol, ni chredwn y gwelir cynnydd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg heb gyfundrefn addysg sy'n cynhyrchu mwy o siaradwyr Cymraeg newydd."

Dim grym

Ers Ebrill 2014 mae Cynghorau wedi gorfod llunio strategaethau ynglŷn â sut i ddiwallu'r gofynion am addysg cyfrwng Cymraeg. Mae Llywodraeth Cymru yn gallu cymeradwyo neu wrthod y cynlluniau.

Ond yn ôl Meri Huws mae'r rhain yn ddiffygiol, yn rhannol am nad oes gan y Llywodraeth y grym i orfodi Cynghorau i addasu eu cynlluniau.

" ...nid yw'n ymddangos bod gan y Llywodraeth rym gorfodi mewn achosion posibl o fethiant gan Awdurdod Lleol i gyflawni targedau ac ymrwymiadau ei Gynllun Strategol," meddai.

"Heb gamau gorfodi amlwg, dasg anodd iawn yw gweld sut y gall y CSGAau sicrhau'r newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol."