Dyfodol i'r cyfryngau Cymraeg?

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun, Gwion Lewis ar set 'Pobol y Cwm', un o gyfresi teledu mwyaf poblogaidd yr iaith Gymraeg

Mae hi'n gyfnod o newid mawr i'r cyfryngau trwy'r byd gyda'r chwyldro digidol ar ei anterth. Ond beth mae'r holl ddatblygiadau technolegol yn ei olygu i'n gwasanaethau Cymraeg?

Dyna fydd y bargyfreithiwr Gwion Lewis yn ei bwyso a mesur mewn cyfres newydd, 'Cyflwr y Cyfryngau', ar BBC Radio Cymru.

Mae'n trafod y gyfres gyda Cymru Fyw:

Clwb S4C

Un o bleserau mawr y we yw ei bod hi'n gwbl amhosibl, bellach, cymryd eich hun ormod o ddifrif. Glywsoch chi erioed am "Mrs Pot Pupur"? Na, doedd gen i ddim syniad pwy oedd hi chwaith nes i mi dderbyn e-bost gan gyfaill oes oedd, rywsut, wedi llwyddo i ddod o hyd i'r yr erchyllglip hwn ar YouTube

Mae'r hwyl yn dechrau wedi tua hanner munud. 'Clwb S4C', 3 Mawrth 1986, ac mae'r gyflwynwraig fytholwyrdd, Siân Thomas, wrthi'n "croesawu newydd-ddyfodiaid i'r clwb".

Wrth ochr Siân ar soffa'r Clwb, yn edrych i fyw llygaid plantos Cymru mae tegan, a fwriedid yn wreiddiol, mae'n debyg, i ymdebygu i Wil Cwac Cwac. Yn anffodus, mae un o'i lygaid yn llawer is na'r llall, a'i big yn annaturiol o fawr, gan greu awyrgylch tra fygythiol.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun, Siân Thomas a'i ffrindiau yn nyddiau cynnar S4C. Oes gennych chi ofn Wil Cwac Cwac?

Pa ffordd bynnag edrychwch chi ar y sgrin, mae Wil, fel y Mona Lisa, yn cadw golwg arnoch. Does ryfedd fod Siân druan wedi mynnu fod llewpart ar ben y soffa i'w gwarchod.

Ac wedyn, wedi tua dwy funud o glodfori ymdrechion annwyl y gynulleidfa i dynnu llun cymeriadau'r Clwb, cawn ein cyflwyno i'r gwyliwr mwyaf brwdfrydig ohonyn nhw i gyd.

Yn 6 oed, yn ei byjamas Tomos y Tanc, mae hogyn o 1 Ffordd Penlan, Llangefni, yn cyhoeddi i'r byd ei fod wedi gwirioni gyda Mrs Pot Pupur a'i fod hefyd yn hoff iawn o un o uchafbwyntiau eraill y Clwb, 'Yr Awr Fawr'.

Argyfwng

Ydy, mae fy mherthynas i â S4C yn un hir a chymhleth. Bron i 30 mlynedd yn ddiweddarach, rydw i'n dal i ddilyn ei hynt a'i helynt yn agos iawn. Nid yw hynny wedi bod yn anodd yn y bum mlynedd ddiwethaf, yn anffodus.

Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth San Steffan yn 2010 na fyddai bellach yn talu dros £100 miliwn y flwyddyn i gynnal y sianel, ac mai £7 milliwn yn unig a fyddai ar gael iddi yn y dyfodol, mae S4C wedi wynebu argyfwng ariannol gwirioneddol.

Ar hyn o bryd, mae'r BBC wedi dod i'r adwy wrth ddefnyddio cyfran o arian o ffi'r drwydded deledu i gadw S4C ar ei thraed. Ond faint o ddyfodol sydd yna i'r trefniant hwnnw wrth i'r BBC ei hun wynebu cyfnod o ansicrwydd sylweddol?

Mae Llywodraeth y DU ar fin dechrau trafod telerau Siarter y BBC am y ddeng mlynedd nesa', y ddogfen sy'n datgan beth mae'r wlad yn ei ddisgwyl o'r Gorfforaeth am yr arian cyhoeddus mae'n ei dderbyn.

Nid yw'r gŵr sy'n arwain y trafodaethau hynny ar ran y Llywodraeth, yr Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale, yn un o gefnogwyr brwd y BBC.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun, Fydd dyfodol S4C yn ddiogel yng ngofal yr Ysgrifennydd Diwylliant newydd, John Whittingdale?

Am y tro cyntaf, oherwydd y berthynas newydd rhwng y BBC ac S4C, mae gan y Siarter nesaf oblygiadau amlwg ar gyfer darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Safonau'n gostwng?

Dyna ein man cychwyn, felly, ar gyfer cyfres newydd ddi-flewyn-ar-dafod ar BBC Radio Cymru fydd yn gofyn cwestiynau sylfaenol am gyflwr cyfryngau Cymru heddiw.

Yw S4C a Radio Cymru yn cyfrannu gymaint at fywyd cyhoeddus yng Nghymru ag yr oedden nhw ddeng mlynedd yn ôl?

Yw'r gostyngiad yng nghyllideb S4C wedi effeithio ar safon y gwasanaeth ac, os ydyw, oes yna ffordd ddyfeisgar o lenwi'r twll ariannol?

Ai'r ateb i broblemau ariannol S4C yw datganoli darlledu i Gymru? Ai breuddwyd gwrach yw ail sianel deledu neu orsaf radio Gymraeg genedlaethol?

Nid yw'r syniad o S4C 2 neu Radio Cymru 2 yn newydd yng Nghymru, ond nid oes neb eto wedi llwyddo i awgrymu ffordd gynaliadwy o ariannu mwy nag un sianel deledu a gorsaf radio Gymraeg.

Yn ystod y gyfres, mi fyddwn ni'n ymweld â'r Ffindir er mwyn gweld a oes gwersi i'w dysgu o bolisi newydd y llywodraeth o godi treth ddarlledu fesul y pen, yn unol â chyflog y gweithiwr, yn hytrach na gofyn i bob cartref dalu ffi am drwydded deledu.

Yn digwydd bod, mae'r Ffiniaid hefyd wedi gwirioni â drama S4C, 'Y Gwyll'. Pam? Mae yna haf difyr o drafod o'n blaenau.

Cyflwr y Cyfryngau, BBC Radio Cymru, dydd Llun 6 Gorffennaf, 12:31

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun, 'Y Gwyll', un o lwyddiannau diweddar S4C