Torri coed: Achub 40 o swyddi yn Yr Wyddgrug
- Cyhoeddwyd

Mae rheolwyr wedi prynu'r cwmni
Mae hanner swyddi oedd i fod i ddiflannu wedi i gwmni torri coed fynd i'r wal wedi cael eu hachub.
Cafodd 40 o swyddi eu hachub yn Yr Wyddgrug wedi i'r rheolwyr brynu cwmni Man Coed.
Martin Boardman, Andrew Rossiter a Tony Jones darodd y fargen wedi i gredydwyr gael eu galw ym mis Ebrill.
Roedd y cwmni ymhlith sawl contractiwr oedd yn gweithio i Scottish Power Energy Networks.