Ysgol brofiad

Hwre! Mae'r ysgol yn cau am yr haf yr wythnos hon!

Tra bydd nifer fawr o ddisgyblion yn mynd ar wyliau gyda'u rhieni, bydd ambell un yn eu harddegau yn gweithio'n galed am arian poced tan fis Medi.

I lawer dyma'u profiad cyntaf o fyd gwaith. Dyma bedwar o enwogion ein cenedl yn rhannu eu profiadau unigryw o ysgol brofiad y byd mawr drwg ac ennill cyflog am y tro cyntaf.

Gary Slaymaker

Fues i'n gweitho mewn busnes lleol yn Llambed dros yr haf hir rhwng 'benu lefel A a cyn mynd bant i'r coleg.

Dim y jobyn rhwydda yn y byd, o'n i'n 'wys stecs, ac yn faw drosta'i ar ddiwedd bob dydd, ond odd e'n yffarn o sbort. Yn benna' achos y bois o'n i'n gweitho gyda. Bois caled, ond bois ffein, a'r cymeriade rhyfedda.

Hanner awr o ni'n gal i gino, a do'dd ddim lot o bwynt mynd off-site wedyn, a bydde rhai o'r bois yn lladd amser drwy whare cowbois ac indians rownd cefen yr adeilade, gan iwso industrial nail guns fel arfau... ti'n siarad am beiriant o'dd yn galler pwno hoelen 6" mewn i pallet pren, fan hyn.

Image caption Ai cowbio 'ta indian oedd Gary yn ei jobyn cyntaf yn Llambed?

Ond y stori orau odd am un o'r fformyn ar y seit odd byth a beunydd yn cymryd siocled gan y bois, heb byth gynnig prynu dim yn ôl.

Wel, un dydd, gath y gweithwyr ddigon o hyn, a fe newidon nhw'r siocled arferol am faryn o siocled laxative (a'i roi e mewn wrapper siocled, neu rhywbeth tebyg).

Ond dim hynny o'dd ei diwedd hi, achos ar ôl i'r fforman weld y siocled, gymrodd e gwlffyn jiogel, a nethon ni gyd aros ar gyfer further developments wedyn.

Hanner awr yn ddiweddarach, o'dd e'n charjo ar draws y seit, yn gafel yn dynn ym moche'i din, ac yn mynd am y portaloo yn y gornel. Yn anffodus iddo fe, odd y bois gam o'i flaen e, ac wedi hoelio drws y tŷ bach yn sownd gyda un o'r nail guns mawr na o'dd gyda nhw.

Wrth lwc, odd e ond yn byw rhyw 400 llath o'r safle, ond od'd y pwr dab nôl a mlan i'w dŷ drwy'r dydd... a nat'h e ddim cyffwrdd â siocled neb, byth wedi 'ny.

Dylan Ebenezer

Tafarn y Cŵps yn Aberystwyth oedd fy mhrofiad cyntaf o 'weithio' yn ystod yr haf. Roeddwn yn hen gyfarwydd â'r lle gan fod Mam yn gweithio yno a Dad yn yfed yno!

Roedd ein cartref gyferbyn hefyd mwy neu lai, mor agos fel bod modd clywed y gigs yn y bar lan loft o fy stafell wely.

Grêt os oedd Meic Stevens yno, ddim cystal os oedd Moniars o gwmpas.

Diolch i'r enwog Elfed Cŵps ges i swydd yn llenwi'r silffoedd yn yr haf - ond er mod i ddim yn 18 roedd e ddigon hapus i adael fi weithio tu ôl y bar o bryd i'w gilydd hefyd.

Doedd Elfed ddim yn poeni rhyw lawer am bethau pitw fel rheolau!

Ac yno cefais yr addysg gorau erioed. Wrth wrando ar adar brith y dref yn llawn straeon ac esgusodion. Bois yr hanner peints. Pob un yn gymeriad a hanner hefyd.

Yn arwain y cyfan oedd y dyn ei hun Elfed wrth gwrs.

Efallai bod y ffin rhwng ei ffeithiau a'r ffantasi yn niwlog ar adegau ond roedd yn galon i gyd ac yn llawn croeso.

Dwi wedi gweithio i sawl bos ers hynny ond does neb cweit yn cymharu â'r swydd gyntaf yn Y Cŵps.

Image caption Ei waith pan yn ifancach sydd ar siart haf Richard

Richard Rees

Bob haf fues i'n ddigon ffodus i gael y swydd ddelfrydol, wel, roedd hi'n ddelfrydol i fi! Bob haf fe fyddai'r bwrdd dŵr yn Llanelli yn cyflogi rhyw bump neu chwech o fois ysgol i weithio yn y cronfeydd dŵr lleol.

Mae dwy gronfa ddŵr ar gyrion y dre ger Swiss Valley, cronfeydd dŵr Lliedi, ac am rhyw chwech wythnos bob haf fe fydden ni'n gweithio yno yn torri gwair, torri coed, cymoni'r ffosydd ac yn gweithio i gadw'r lle yn lân ac yn daclus. Am saith bob bore fe fyddai'r bos, ffarmwr lleol annwyl iawn, Jack y Berllan, yn gosod y gwaith am y dydd ac yna ffwrdd â ni.

Weithiau bydden ni'n gweithio yn y dŵr gyda waders hyd at ein ceseiliau. Y gamp bryd hynny wrth gwrs oedd gweld faint o ddŵr fedren ni gael dros top waders y boi drws nesa!

Image copyright Rob Ward
Image caption Y wiber wnaeth frathu Richard?

Un bore wrth dorri gwair ger ochr y gronfa uchaf, wrth bwyso ar y wal dyma fi'n rhoi fy llaw ar wiber oedd yn gorwedd yno.

Cefais frathiad ganddo, ond roedd hyn yn y dyddiau cyn iechyd a diogelwch a'r unig ymateb a gefais gan Jack oedd, "Gnoiest di fe nôl"? Cafodd y brathiad ddim effaith arna i o gwbwl.

Ieuan Rhys

Ar ddiwedd Dosbarth 5 yn Ysgol Rhydfelen g'ethon ni wybod bo' trip Pasg yr ysgol yn mynd i Israel. Er mwyn talu am hanner y trip (gyda Dad yn talu'r hanner arall), roedd rhaid i fi weithio drwy'r haf mewn fatri gwneud teisennau ar Stad Ddiwydiannol yn Hirwaun, nid nepell o Aberdâr.

Am haf afiach! Yr wythnos gynta weles i'r un deisen. Dim ond pot paent a brwsh, gan bo' fi a chrwt arall yn gorfod paentio'r holl waith pren tu fas i'r ffatri! Roedd hi'n ffatri anferth!

Yna ar ôl wythnos gyfan ar ben ysgol, cael 'dyrchafiad' i grombil y ffatri ei hun i lanhau'r tuniau cacennau. Eu glanhau gyda phapur grease-proof oedd y ffordd iawn.

Ond, gan bo fi'n newydd i lawr y ffatri halodd un o'r gweithwyr fi i ofyn i'r fforman am brillo pad i wneud y job.

Fel ffŵl gerddes i drwy'r holl ffatri fel Oliver Twist yn cerdded lan at Mr Bumble i ofyn am fwy o gawl! "Brillo pad?" Bloeddioedd y fforman, yn gwmws fel Harry Seacombe yn y ffilm 'Oliver!'. Droies i rownd a phawb yn y ffatri gacennau yn 'wherthin!

Image caption "Plîs Syr. Alla'i gael Brillo pad"?

Ar gyfnod arall roedd rhaid i fi ddod mewn i'r ffatri erbyn saith y bore er mwyn helpu un o yrwyr y cwmni i fynd â fan fach o gacennau i Aberdaugleddau.

Albanwr oedd y gyrrwr, a Jock oedd pawb yn ei alw, a do'n i ddim yn deall gair 'wedodd Jock gan bo'i acen yn gre' iawn. Wedi gadael Hirwaun a chyn cyrraedd Castell Nedd ro'n i 'di cwmpo'i gysgu.

Dihuno yn Aberdaugleddau a dad-lwytho'r fan. Yna nôl i'r fan gyda Jock a chysgu'r holl ffordd nôl i Hirwaun!

Ges i ngalw i weld bos y cwmni y bore drannoeth er mwyn iddo fe ddweud wrtha i (diolch i Jock y grass Albanaidd) gan bo' fi di cysgu'r holl fordd i Aberdaugleddau a'r holl ffordd nôl y byswn i'n colli diwrnod o gyflog!

Ar ôl gweld sut oedd cacennau'r cwmni'n cael eu gwneud fwytes i ddim cacen am sbel hir wedi 'ny. Dwi 'di neud lan am y cyfnod ers 'ny cofiwch!!