Hywel Emrys
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Hywel Emrys: 'Ddim yn hapus' tan bod ei fab yn ôl o Tunisia

27 Mehefin 2015 Diweddarwyd 19:31 BST

"Dwi'm yn credu y byddai'n hapus tan ei fod o adre."

Dyna mae'r actor Hywel Emrys wedi ei ddweud am ei fab sydd ar wyliau yn Sousse, Tunisia wedi'r ymosodiad terfysgol yno ddydd Gwener.

Soniodd Mr Emrys am ei deimladau pan welodd yr hyn oedd wedi digwydd yn y wlad lle mae ei fab Sam ar wyliau.

Rhiannon Wilkins oedd yn ei holi.