Cyhuddo dyn o geisio llofruddio yn Grangetown, Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Roedd Heol Penarth yn Grangetown ar gau wedi'r digwyddiad
Mae dyn wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio dynes wedi digwyddiad yng Nghaerdydd ar 12 Mehefin.
Cafodd y ddynes 43 oed ei chludo i'r ysbyty ar ol cael ei thrywanu yn y digwyddiad yn ardal Grangetown y ddinas.
Cafodd Arnel Martinez Raymundo, 47, ei arestio gan Heddlu De Cymru yn ardal Croydon o Lundain ddydd Iau.
Fe wnaeth ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd fore Sadwrn, a chafodd ei gadw yn y ddalfa nes iddo ymddangos yn Llys y Goron y ddinas fis nesaf.