Gyrfa newydd fel diaconiaid

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Church in Wales
Disgrifiad o’r llun, Sandra Birdsall, Jonathon Wright, James Griffiths, Rhian Linecar, Terry Cox a Kent Middleton

Mae gweithiwr genetig, cyn swyddog gyda'r llynges a bargyfreithiwr ymhlith y rhai fydd yn dechrau gyrfa newydd o fewn yr Eglwys yng Nghymru.

Fe fydd Sandra Birdsall, Jonathon Wright, James Griffiths, Rhian Linecar, Terry Cox a Kent Middleton yn cael eu hordeinio yn ddiaconiaid gan Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ddydd Sadwrn.

Byddant y gwasanaethu eglwysi yng Nghaerdydd a Phenarth.

Dywedodd Rhian Linecar, cyn weithiwr i'r mudiad Cytun, ei bod wedi bod yn edrych ymlaen i'r ordeinio am nifer o flynyddoedd.

"Rwyf wedi cyffroi ac yn teimlo anrhydedd. Rwy'n edrych ymlaen at ddefnyddio fy mhrofiad o fywyd i ddod a Christ i fywydau pobl."

Yn ystod y gwasanaeth dydd Sadwrn fe fydd tri o ddiaconiaid, y Parchedig Rhun Ap Robert, y Parchedig Tom Bates a'r Parchedig Pauline Smith, yn cael eu hordeinio'n offeiriaid.