Rhoi llwyfan i gerddorion

Andy

Mae o'n gerddor, cynhyrchydd a pherchennog label recordiau Bronze Rat. Mae Andy Zammit o Lanelli yn byw mewn byd llawn cyffro cerddorol ac wedi helpu i ddod ag artistiaid poblogaidd fel Seasick Steve i gynulleidfa ehangach yn ogystâl â hyrwyddo bandiau sydd wedi hen ennill eu plwy, fel Arthur Brown.

Mae bellach yn byw yn Berlin, gan deithio yn rheolaidd ledled yr Unol Daleithiau ac Ewrop yn perfformio neu yn hybu cerddoriaeth. Cafodd Cymru Fyw air gyda Andy ynghanol ei brysurdeb.

Faint o ddylanwad oedd cerddoriaeth pan yn fachgen ifanc yn Llanelli?

Roedd e'n ddylanwad mawr iawn. Roedd fy nhad yn dipyn o gasglwr recordiau, ond wedi iddo gael plant roedd hynny'n 'hobi' rhy ddrud i'w gynnal, ond roedd 'na lawer o recordiau feinyl ar gael gartre.

Roeddwn i'n gwrando ar Jimi Hendrix, Black Sabbath, Deep Purple, Led Zeppelin, Arthur Brown (ni wnaeth gyhoeddi ei albwm ddiweddara, 'Zim Zam Zim')

Fe es i gyda fy nhad i weld Man a Pink Floyd cyn i mi fod yn 10 oed. Roeddwn yn chwarae'r drymiau ac yn gigio erbyn ro'n i yn 13.

Beth oedd y prif ofidion wrth greu dy label recordiau dy hun (Bronze Rat)?

Heb fy ffydd bersonol a moment o fod yn or-awyddus, mae'n siŵr bydden i wedi ailfeddwl y peth a dewis peidio gwneud. Ond doedd dim masterplan, roedd yn organig.

Doedd dim gofidion mewn gwirionedd, aeth o un peth i'r nesaf - gwasgu 500 o recordiau 7", ac yna CD bach o gasgliad o ganeuon.

Ro'n i yn rhan o gymuned gerddoriaeth yn Llundain a oedd yn gallu bod yn ddiamynedd wrth hybu eu gwaith ein hunain.

Do'n i ddim yn ymwybodol o'r hyn roeddwn i'n ei wneud - daeth y gofidion yn nes ymlaen.

Pa mor hawdd yw hi i bontio rhwng bod yn berfformiwr dy hun ac i hyrwyddo gwaith cerddorion eraill?

Nes i erioed newid gyrfa fel petai, gan mod i dal yn gerddor - yn chwarae mwy nac erioed mae'n siŵr.

Ond mae hybu cerddoriaeth pobl eraill yn deimlad eitha' rhyfedd, oherwydd er mod i'n gwybod sut beth yw hi i fod yn gerddor, wedi i ti roi dy 'het label' ymlaen, ti'n cael dy weld mewn ffordd wahanol. Mae e'n troi yn fusnes - sydd yn ddiflas iawn.

I fi mae yn ymwneud â chymryd y grym yn ôl. Roeddwn i'n gallu ei wneud drosta fi fy hun, felly dwi'n ei wneud i lond llaw o bobl eraill hefyd.

Dwi ddim yn trio bod yn rhyw svengali neu'n trio hawlio clod, yn fuddsoddwr nac yn ddyn busnes. Mae pawb dwi'n gweithio gyda nhw yn rhydd i adael os ydyn nhw eisiau.

Dwi ond yn rhoi help llaw. Yn yr ystyr yna rydw i'n cadw at egwyddorion rhywun fel Ian Mackaye (Dischord). Er gwell neu er gwaeth, wna i ddim stopio'r gerddoriaeth ar gyfer swydd tu ôl i ddesg. Mi wnes i hynny am gwpl o flynyddoedd, ac roedd yn ara' bach yn fy ngyrru yn wallgo'.

Image caption Andy yn perfformio ar y drymiau

Oes yna feddylfryd arbennig wrth ddewis pa berfformwyr i'w harwyddo?

Mae'n siŵr bod un, yn ddistaw bach. Yn sicr dydyn ni ddim yn dewis artistiaid yn ôl be' 'da ni'n ei feddwl fydd yn gwerthu orau. Mae llawer ohono'n dod at pa mor bell allwn ni wthio ffiniau.

Dyw'r ffaith bod rhywbeth yn gwerthu ddim yn golygu ei fod yn dda. Fel arfer mae i'r gwrthwyneb! Lle mae'r grefft?!

Mae'n siŵr na wnaeth fy hoff recordiau erioed werthu mwy na rhyw fil o gopiau.

Dwi'n cyfarfod pobol pan dwi allan a thrwy hap a damwain. Gan fy mod i wedi gweithio gyda Seasick Steve, CW Stoneking, ac achos bod gan enw'r band The Jon Spencer Blues Explosion y gair 'blues' ynddo (er eu bod ddim yn fand blues), mae yna dueddiad i ystyried ein label fel rhywbeth syml, diaddurn ac i ddiystyru'r ffaith fod y mwyafrif o'r gerddoriaeth dwi'n gweithio gyda nhw yn fwy 'gwahanol'.

Mae gen i hyd yn oed label arall sydd yn hybu y pethau mwy arbrofol sef Seriés Aphōnos. Dwi'n gwrando ar Magma bron yn ddyddiol.

Mi wnes di gyflwyno Seasick Steve i gynulleidfa tu hwnt i America. Faint o wahaniaeth wnaeth ei lwyddiant o i dy yrfa di?

Nes i ei roi e ar lwyfan a'r llwybr arbennig yma. Fe roddodd fy label ar y map - ym mhen dwfn y diwydiant, mae'n siŵr!

Ond dwi'n meddwl y byddai wedi bod yn anochel gyda Seasick Steve i ddweud gwir, ond efallai ddim mor gyflym â ddigwyddodd e.

Ges i e ar raglen Jools Holland ar y BBC 'Jools' Hootenanny' ac fe dyfodd yn gyflym i fod yn seren poblogaidd o ganlyniad i hynny.

Ond mae e wir yn ddiddanwr - fe wnaeth e ddarganfod be' oedd llawer o bobl eisiau, ac fe roddodd e hynny iddyn nhw.

Image caption Rhoddodd Andy Zammitt hwb i yrfa lwyddiannus Seasick Steve tu hwnt i America

Oes yna berfformwyr Cymreig sy'n creu argraff arnatti ar hyn o bryd?

Mae'r rhan fwya un o'r artistiad sydd dan fy adain, Gemma Ray, yn Gymry, sef fi ac Ed Turner sy'n dod o ardal Hwlffordd.

Hefyd mae Cymro talentog iawn, Carwyn Ellis (Colorama, Edwyn Collins, Sarah Cracknell) hefyd yn chwarae gyda Gemma Ray ar brydiau.

Fe wnaethon ni recordio dipyn o albwm ddiweddara' Gemma yng ngorllewin Cymru.

Dwi o hyd yn edrych am fandiau newydd Cymreig - dw i wrth fy modd gyda Gulp (band Guto o'r Super Furry Animals).

Ond does gen i ddim diddordeb mewn hybu cerddoriaeth Gymreig just oherwydd ei fod o'n Gymreig chwaith.

Image caption Gemma Ray a'r band tu allan i stiwdio recordio Mwnci ger Hendy-gwyn ar Daf

Beth yw'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Dwi yn y stiwdio yn Berlin yn cymysgu record lle dwi'n cydweithio gyda Gemma Ray, peirianydd sain o'r Almaen, Ralf Goldkind, a Kristof Hahn o Swans.

Yna mi fydda i a Gemma yn dechrau'r gwaith paratoi ar gyfer albwm arall, a rydyn ni hefyd yn paratoi soundtrack ar gyfer ffilm Almaeneg.

Ni newydd gyhoeddi enw arall i'r label - record brydferth, hypnotic sydd allan mis Awst gan foi o Texas o'r enw Monk Parker.