Parc gwledig: Arestio dyn

Image copyright Arall
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw ychydig wedi 16:45

Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i ddyn farw mewn parc gwledig yng Nghoryton, Caerdydd.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn ymchwilio i "ddigwyddiad difrifol" ar ôl cael eu galw i Barc Gwledig Fferm y Fforest ychydig wedi 16:45.

Cyhoeddwyd bod dyn 41 oed yn farw yn y fan a'r lle.

Mae dyn 58 oed yn y ddalfa yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd a dylai unrhywun gyda gwybodaeth ffonio 101.