Marwolaeth Cas-gwent yn 'amheus' medd yr heddlu

Nigel Henderson a Stacey Henderson Image copyright Wales News Service
Image caption Nigel Henderson, 52, a'i wraig Stacey, 35

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwolaethau Nigel a Stacey Henderson yng Nghas-gwent yn dweud eu bod yn trin marwolaeth y wraig fel un amheus.

Cafodd corff Mrs Henderson, 35 oed, â'i gŵr, 52 oed, eu darganfod yn eu cartref ddydd Gwener.

Dywedodd Heddlu Gwent nad oedd marwolaeth Mr Henderson yn amheus, ac nad ydynt yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r ymchwiliad.

Bydd cwest yn cael ei agor yng Nghasnewydd yn ddiweddarach ddydd Iau.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent eu bod yn parhau i gynnig cymorth i'r teulu.

Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd teulu Mr Henderson ei fod yn dioddef o "salwch cronig" a bod ei farwolaeth yn "gynamserol".

Dywedodd teulu Mrs Henderson mewn datganiad ar wahân: "Cymerwyd y bywyd hwn yn rhy gynnar, ein merch hyfryd a hoffus."

Image caption Cafodd cyrff y cwpwl eu darganfod yn eu cartref yng Nghlôs Ruffets ar 19 Mehefin