Llai Cŵl-Cymru

Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig

Gyda thîm pêl-droed Cymru bellach ymhlith 10 detholyn uchaf y byd a chymaint o Gymry yn cael llwyddiant ar y llwyfan rhyngwladol, mae'n gwlad yn brysur ad-ennill y disgrifiad 'Cŵl Cymru' a oedd mor amlwg yn y 90au. Ond trwy bori trwy'r archif luniau, doedd hi ddim felly am gyfnod maith!

disgrifiad o’r llunDyma sut roedd plant yn arfer gwisgo nôl yn yr hen ddyddiau
disgrifiad o’r llunRoedd pawb yn mynd i'r Eisteddfod
disgrifiad o’r llunAc yn canu'r delyn...
disgrifiad o’r llunRoedd pawb yn mynd i'r capel...
disgrifiad o’r llun...ac yn canu mewn côr
disgrifiad o’r llunRoedd hi hyd yn oed yn anodd i fod yn cŵl yn y cyfryngau...
disgrifiad o’r llun..ond fe wnaeth rhai, fel Endaf Emlyn, dyfu i fod yn cŵl... yn y diwedd!
disgrifiad o’r llunOnd fe frwydrodd eraill, fel Tom Jones, yn erbyn y peth am flynyddoedd
disgrifiad o’r llunRoedd hyd yn oed Hywel Gwynfryn yn ei chael hi'n anodd i fod yn cŵl
disgrifiad o’r llunOnd o leiaf gallwch chi ddibynnu ar dîm 'Scrum V' !

Ai chi yw un o'r plant yn y lluniau? Anfonwch nodyn at:

cymrufyw@bbc.co.uk

Twitter - @BBCCymruFyw

Pynciau Cysylltiedig