Marwolaeth bachgen ar drip sgïo yn ddamweiniol

Published
image copyrightHeddlu Dyfed-Powys
image captionRoedd Carwyn Scott-Howell yn saith oed pan fu farw ym mis Ebrill

Mae crwner wedi penderfynu mai damwain oedd marwolaeth bachgen saith oed fu farw ar drip sgïo yn Ffrainc.

Bu farw Carwyn Scott-Howell o Dal-y-bont ar Wysg ym Mhowys ar wyliau gyda'i deulu yn yr Alpau ym mis Ebrill.

Clywodd y cwest bod y bachgen yn sgïwr profiadol ond fe gafodd ei wahanu o'i fam a'i chwaer ar eu gwyliau yn Flaine pan gollodd ei chwaer ei sgi.

Ar ôl stopio am ychydig fe barhaodd i lawr y mynydd ac aeth ar goll. Wrth iddo geisio darganfod ei ffordd ar droed y gred yw iddo ddechrau llithro i lawr y mynydd ac oddi ar glogwyn.

Fe gafodd ei gorff ei ddarganfod ar sil 50m o dan y glogwyn.

Mewn datganiad gafodd ei ddarllen gan ei fam fedydd, dywedodd teulu Carwyn bod ei farwolaeth wedi gadael bwlch mawr yn eu bywydau.

Casglodd Crwner Gwent David Bowen yng Nghasnewydd fod y farwolaeth yn ddamweiniol.