Symud beiciwr i ysbyty yn Stoke

Car
Image caption Y car yn Rhyd Ddu yn dilyn y digwyddiad

Mae dyn, gafodd ei anafu wrth gystadlu mewn ras yn Eryri, wedi cael ei symud i Ysbyty Prifysgol Brenhinol Stoke.

Roedd y ddamwain ger Rhyd Ddu tua 09:50 ddydd Sul a tharodd car feic ger Swyddfa'r Post.

Cafodd dau ambiwlans awyr a dau ambiwlans cyffredin eu galw yn ystod ras Etape Eryri.

Mae'r heddlu wedi apelio am dystion i'r digwyddiad.

Cafodd y B4418 rhwng Rhyd Ddu a Nantlle ei chau am gyfnod.