Nadine Koutcher yw Canwr y Byd 2015

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun,
Nadine Koutcher, enillydd tlws Caerdydd 2015

Nadine Koutcher o Felarws yw enillydd cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2015.

Cafodd y Soprano 29 oed ganmoliaeth fawr am ei pherfformiad ger bron cynulleidfa eiddgar yn Neuadd Dewi Sant.

Mae'r gystadleuaeth yn llwyfan rhyngwladol pwysig ar gyfer cantorion opera mwyaf addawol y byd.

Fe ddaeth ugain o berfformwyr clasurol i'r brifddinas er mwyn cystadlu.

Roedd y rownd derfynol yn cynnwys cantorion hefyd o Wcráin, yr Unol Daleithiau, Mongolia a De Affrica.

Bu'r cystadleuwyr yn perfformio repertoire o'u dewis nhw, i gyfeiliant Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC o dan arweiniad Thomas Søndergård a Martyn Brabbins.

Fe dderbyniodd yr enillydd dlws Caerdydd a £15,000.

Disgrifiad o’r llun,
Fe ddaeth 20 o gantorion addawol i'r llwyfan yng Nghaerdydd gan gynnwys Céline Forrest o Abertawe

Enillydd Gwobr y Gynulleidfa eleni yw Amartuvshin Enkhbat, baritone 29 oed o Fongolia.

Disgrifiad o’r llun,
Amartuvshin Enkhbat o Fongolia yn paratoi cyn iddo gamu i'r llwyfan