Cynghrair Pencampwyr yn Stadiwm Mileniwm

Tlws Cynghrair Pencampwyr Ewrop Image copyright Getty Images
Image caption Tlws Cynghrair Pencampwyr Ewrop

Mae disgwyl mai Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, fydd yn cynnal rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Ewrop 2017.

Mae BBC Cymru yn deall fod cartref rygbi Cymru yn ffefryn mawr i gynnal y digwyddiad, sy'n cael ei ystyried fel y brif gystadleuaeth i glybiau Ewrop.

Disgwylir cyhoeddiad swyddogol gan Uefa ddydd Llun, 29 Mehefin.

Mae'r stadiwm eisoes yn wedi cynnal gemau rhyngwladol Cymru yn ogystal â rowndiau terfynol Cwpan yr FA yn ystod y cyfnod pan roedd Wembley yn cael adnewyddu.

Mae gan y stadiwm le i 74,500 o gefnogwyr.

'Yn obeithiol'

Cymdeithas Bêl-droed Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am wneud cais i gael cynnal y gêm, ond mae perchnogion y stadiwm, Undeb Rygbi Cymru, hefyd wedi bod yn rhan o'r trafodaethau gyda Uefa, y corff sy'n rheoli pêl-droed Ewrop.

Ym mis Mai, dywedodd prif weithredwr yr Undeb, Roger Lewis: "Mae'r synau rydym yn eu cael ar hyn o bryd yn obeithiol iawn."

Mae llwyfannu rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr neu Gynghrair Europa yng Nghaerdydd wedi bod yn uchelgais i brif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford, ers iddo gymryd yr awenau yn 2009.

Mi fydd cael gwneud hynny yn 2017 yn lleddfu ychydig ar y siom ar ôl i Gaerdydd fethu â bod ymysg y 13 dinas fydd yn cynnal gemau ym Mhencampwriaeth Euro 2020.