Damwain Rhyd Ddu: Gwrthdrawiad rhwng car a beic

Car
Image caption Y car yn Rhyd Ddu yn dilyn y digwyddiad

Mae o leiaf un person wedi ei anafu yn ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a beic yn Rhyd Ddu, Gwynedd.

Cafodd dau ambiwlans awyr a dau ambiwlans ffordd eu galw i'r digwyddiad.

Bu'r car a'r beic mewn gwrthdrawiad ger Swyddfa'r Post Rhyd Ddu am 09:52 fore Sul.

Bu'r digwyddiad seiclo poblogaidd Etape Eryri yn digwydd yn yr ardal, ac mae Rhyd Ddu ar lwybr y digwyddiad.

Mae'r heddlu wedi apelio am dystion i'r digwyddiad.