Essex yn curo Morgannwg yn y T20

Ingram Image copyright Getty Images

Mae Morgannwg wedi colli eu gêm yn y gystadleuaeth 20 pelawd yn erbyn Essex nos Wener o 16 rhediad.

Cyrhaeddodd y tîm cartref 187 am 7 wiced oddi ar eu 20 pelawd yn Chelmsford, gyda Ravi Bopara yn cyrraedd 52 cyn cael ei ddal gan Dean Cosker oddi ar fowlio Michael Hogan.

Daeth cyfraniadau o 38 gan Nicholas Browne a 27 gan Graham Napier, wrth i Hogan gymryd tair wiced i Forgannwg.

Ni chafodd yr ymwelwyr y dechrau gorau i'w batiad wrth i Craig Meschede gael ei fowlio oddi ar ei drydydd bêl.

Sgoriodd Colin Ingram 70 ac fe gafodd Graham Wagg 41 ond siomedig oedd batio'r ymwelwyr.

Roedd tair wiced yr un i Ravi Bopara a Shaun Tait wrth i Essex ennill o 16 rhediad.