£34m i wella gofal yn y gymuned
- Cyhoeddwyd

Fe fydd £34 miliwn yn ychwanegol yn cael ei wario ar recriwtio a hyfforddi nyrsys, therapyddion a fferyllwyr i weithio ochr yn ochr â meddygon teulu mewn ymdrech i rwystro pobl rhag mynd i'r ysbyty yn ddiangen.
Fe fydd y cynllun hefyd yn gweld rhai gwasanaethau yn symud o ysbytai, fel bod pobl yn gallu cael eu trin yn y gymuned.
Nod arall y cynllun yw ceisio recriwtio mwy o feddygon teulu yn y gogledd, lle mae yna brinder doctoriaid o'r fath mewn sawl ardal.
Dywedodd y Gweinidog iechyd Mark Drakeford y byddai'r arian ychwanegol yn ysgafnhau'r pwysau ar feddygon teulu.
Fe fydd y rhan fwyaf o'r arian - £23 miliwn - yn cael ei roi i'r byrddau iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Fe fydd gweddill yr arian yn cael ei fuddsoddi mewn 19 o brosiectau newydd gan gynnwys:
- Uned symudol yn ardal Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi ei staffio gan nyrs a meddyg teulu, a fydd yn ymateb i sefyllfaoedd brys
- Dwy ganolfan newydd i wneud diagnosis a thrin problemau llygaid yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
- Fe fydd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn buddsoddi mewn gwasanaethau cymunedol ar gyfer ymgeiswyr lloches
- Bydd Bwrdd Iechyd Powys yn sefydlu system 'triage' newydd a threfn newydd wrth ymateb i alwadau
- Prosiect Bwrdd Iechyd Cwm Taf lle mae fferyllwyr yn ceisio gwella rheolaeth cleifion o'u meddyginiaethau
- Prosiectau Aneurin Bevan a Cwm Taf i gynorthwyo pobl i leihau'r risg o afiechydon y galon a chlefyd y siwgr