Coron Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau

Coron Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015
Image caption Mae'r Goron yn symbol o'r berthynas rhwng Cymru a Thalaith Chubut, Ariannin

Cafodd Coron Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau ei chyflwyno i Bwyllgor Gwaith lleol yr Eisteddfod nos Fercher.

Roedd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghapel Tabernacl, Machynlleth.

Rhoddir y Goron eleni gan Gymdeithas Cymru-Ariannin.

Mae wedi ei chynllunio a'i chynhyrchu gan yr artist John Price, ac mae'n cyfleu'r berthynas rhwng Cymru a Thalaith Chubut ym Mhatagonia.

Yn ei chanol, mae carreg a godwyd o draeth Porth Madryn - ble glaniodd y Cymry cyntaf yn 1865. O gwmpas y garreg honno, mae hwyliau llong y Mimosa yn cael eu tynnu i lawr ar ddiwedd y daith.

Mae'r Goron hefyd yn cynnwys symbol o afon Camwy a blodau'r Celyn Bach.

Bydd y Goron yn cael ei rhoi i'r bardd buddugol am gasgliad o gerddi digynghanedd, ynghyd â gwobr ariannol er cof am Aur ac Arwyn Roberts, Godre'r Aran, Llanuwchllyn.

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015.

Mae Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn cael ei chynnal ar dir Mathrafal o 1-8 Awst, 2015.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.