Fferm wynt £2bn yn agor oddi ar arfordir gogledd Cymru
- Cyhoeddwyd
Adroddiad Iolo ap Dafydd
Mae'r yr ail fferm wynt forol fwyaf y byd wedi cael ei agor yn swyddogol oddi ar arfordir gogledd Cymru ddydd Iau.
Mae cynllun £2bn Gwynt y Môr yn olygfa cyfarwydd yn barod, wyth milltir oddi ar arfordir Llandudno a Bae Colwyn.
Mae'r 160 o dyrbinau yn gweithio ac yn cynhyrchu hyd at 576 megawat o drydan - digon ar gyfer hyd at 400,000 o gartrefi yn ôl y cwmni sy'n gyfrifol amdano, RWE Innogy.
Fe gafodd y cynllun ei gyflwyno yn gyntaf yn 2003, cyn cael ei wireddu tair blynedd yn ôl.
Mae'r fferm wynt ar draws ardal 31 milltir sgwâr, sy'n cynnwys is-orsaf allan ar y môr.
Mae hi wedi cymryd 12 blynedd i wireddu'r cynllun, oedd wedi wynebu gwrthwynebiad gan ymgyrchwyr a chynghorwyr oedd yn bryderus am yr olygfa, a'i effaith ar dwristiaeth.
Fe gafodd y cynllun gwreiddiol ei gwtogi, ac fe gafodd ganiatâd yn 2008 gan y Gweinidog Egni ar y pryd, Ed Miliband.
Straeon perthnasol
- 5 Hydref 2011