Rygbi Ewrop: Trefnu grwpiau rhanbarthol
- Cyhoeddwyd

Mae'r grwpiau ar gyfer dwy brif gystadleuaeth clybiau rygbi Ewrop y tymor nesaf wedi'u trefnu.
Yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop bydd y Gweilch yn yr un grŵp â Clermont, gollodd yn y rownd derfynol y tymor diwethaf, Caerwysg a Bordeaux.
Mi fydd y Scarlets yn chwarae yn erbyn Glasgow, Northampton a Racing 92.
Yng Nghwpan Her Ewrop bydd y Dreigiau'n wynebu Sale, Castres a Pau tra bydd y Gleision yn yr un grŵp â Montpellier, Calvisano a Harlequins, clwb newydd Jamie Roberts.
Mi fydd y gemau cyntaf yn cael eu chwarae ar 12/13/14/15 Tachwedd, gyda'r rowndiau terfynol ar 13/14 Mai.
Cwpan Pencampwyr Ewrop
GRŴP UN: Saracens, Ulster, Toulouse, Oyonnax;
GRŴP DAU: Clermont Auvergne, Y Gweilch, Caerwysg, Bordeaux;
GRŴP TRI: Glasgow, Northampton, Racing 92, Scarlets;
GRŴP PEDWAR: Stade Francais, Munster, Caerlŷr, Treviso;
GRŴP PUMP: Caerfaddon, Toulon, Leinster, Wasps.
Cwpan Her Ewrop
GRŴP UN: Connacht, Brive, Newcastle, Enisei-STM;
GRŴP DAU: Sale Sharks, Castres, Dreigiau Casnewydd Gwent, Pau;
GRŴP TRI: Montpellier, Harlequins, Gleision Caerdydd, Calvisano
GRŴP PEDWAR: La Rochelle, Caerwysg, Zebre, Caerwrangon;
GRŴP PUMP: Caeredin, Gwyddelod Llundain, Grenoble, Agen.