Cwpan Capital One: Yr enwau o'r het
- Cyhoeddwyd

Abertawe'n codi'r gwpan yn 2013
Mae'r enwau wedi cael eu tynnu o'r het ar gyfer rownd gyntaf Cwpan Capital One y tymor nesaf, 2015-16.
Fe fydd gan Glwb Pêl-droed Caerdydd gêm gartref yn erbyn AFC Wimbledon.
Ond fe fydd gan Gasnewydd daith anodd i wynebu Wolverhampton Wanderers.
Abertawe yw'r unig glwb o Gymru i ennill y gystadleuaeth - yn 2013 - ond dyw clybiau'r Uwchgynghrair ddim yn dod i mewn i'r gystadleuaeth tan yr ail rownd.
Llwyddodd Caerdydd i gyrraedd y rownd derfynol yn y flwyddyn flaenorol cyn colli yn y ffeinal yn erbyn Lerpwl.
Bydd rownd gyntaf y gystadleuaeth eleni yn cael ei chynnal yn yr wythnos sy'n dechrau ar 10 Awst.
Cwpan Capital One 2015-16 - y rownd gyntaf yn llawn:
- Caerdydd v AFC Wimbledon
- Wolverhampton Wanderers v Casnewydd
- Carlisle United v Chesterfield
- Nottingham Forest v Walsall
- Fleetwood Town v Hartlepool United
- Scunthorpe United v Barnsley
- Bolton Wanderers v Burton Albion
- Accrington Stanley v Hull City
- Rochdale v Coventry City
- Oldham Athletic v Middlesbrough
- Huddersfield Town v Notts County
- Blackburn Rovers v Shrewsbury Town
- Morecambe v Sheffield United
- Doncaster Rovers v Leeds United
- Wigan Athletic v Bury
- Northampton Town v Blackpool
- Sheffield Wednesday v Mansfield Town
- Rotherham United v Cambridge United
- Crewe Alexandra v Preston North End
- York City v Bradford City
- Port Vale v Burnley
- Peterborough United v Crawley Town
- Yeovil Town v Queens Park Rangers
- Plymouth Argyle v Gillingham
- Swindon Town v Exeter City
- Bristol Rovers v Birmingham City
- Ipswich Town v Stevenage
- Luton Town v Bristol City
- Charlton Athletic v Dagenham & Redbridge
- Brentford v Oxford United
- Portsmouth v Derby County
- Southend United v Brighton & Hove Albion
- Milton Keynes Dons v Leyton Orient
- Millwall v Barnet
- Wycombe Wanderers v Fulham
- Colchester United v Reading