Cwmni gwyddorau bywyd i ehangu ei safle ym Mhencoed

Ortho-Clinical Diagnostics Image copyright Google
Image caption Mae'r cwmni yn cyflogi 350 ar ei safle ym Mhencoed yn barod

Mae cwmni gwyddorau bywyd o America i fuddsoddi £4.6m arall yng Nghymru gan ehangu'r gwaith cynhyrchu o'i safle ym Mhencoed, Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Ortho-Clinical Diagnostics yn cyflogi 350 o bobl yno'n barod, gan greu 100 miliwn o becynnau diagnostig pob blwyddyn.

Bydd y llinell gynhyrchu newydd yn galluogi'r cwmni i greu 21 miliwn o becynnau profion gwaed pob blwyddyn, fydd yn cael eu hallforio ar draws y byd.

Wrth groesawu penderfyniad y cwmni i ehangu, dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones: "Rydyn ni'n denu rhai o gwmnïau mwyaf blaenllaw y byd i Gymru, gan greu swyddi a thwf yma."