Trafod dyfodol dau fanc yng Nghorwen a Llangollen

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llunEirian Evans/Geograph
disgrifiad o’r llunCangen Natwest yw'r unig fanc sydd ar ôl yng Nghorwen

Fe fydd gwleidydd yw cyfarfod penaethiaid banc Natwest mewn ymgais i achub dwy gangen rhag cau yn Sir Ddinbych.

Mae banc Natwest yn bwriadu cau 11 o ganghennau yn y gogledd erbyn mis Medi, gan gynnwys dau yn Llangollen a Chorwen.

Mae AC Clwyd, Ken Skates wedi trefnu cyfarfod yn ddiweddarach yn y mis, i drafod y cynlluniau, dywedodd Mr Skates y byddai Corwen yn cael ei adael heb unrhyw fanc, petai'r gangen yma yn cau.

Dywedodd penaethiaid y banc eu bod wedi gwneud y "penderfyniad anodd" oherwydd sawl ffactor, gan gynnwys defnydd o'r gangen.