Carchar i ddynes wedi apêl cyfreithiol
- Cyhoeddwyd

Kelly Richards yn ystod ei achos llys gwreiddiol ym mis Mawrth
Mae dynes oedd wedi osgoi cyfnod o garchar ar ôl cael rhyw gyda bachgen ysgol wedi ei dedfrydu i ddwy flynedd a hanner dan glo ar ôl i farnwyr wyrdroi'r dyfarniad gwreiddiol.
Roedd Kelly Jane Richards o Aberpennar wedi cyfaddef i'r drosedd yn Llys y Goron Merthyr Tudful ym mis Mawrth, gan dderbyn dedfryd o ddwy flynedd o garchar wedi ei gohirio ar y pryd.
Ond fe gafodd ddedfryd o garchar gan farnwyr yn Llys yr Apêl yn Llundain ddydd Gwener.
Fe ddywedodd y barnwyr fod y dyfarniad gwreiddiol ddim yn ddigon llym.
Cafodd Richards ei gorfodi i fynd i swyddfa'r heddlu ym Merthyr erbyn 16:30.
Roedd cyfreithwyr ar ran y Twrnai Cyffredinol wedi dadlau y dylai'r barnwr yn llys y goron wedi bod yn fwy llym gyda'i ddyfarniad yn yr achos gwreiddiol.