Saith Diwrnod

Ysgol Bro Myrddin
Image caption Mae Ysgol Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin yn gobeithio troi'n Ysgol Benodedig Cyfrwng Cymraeg

Mewn datblygiad y mae cylchgrawn Golwg yn ei alw'n gam bras a phendant ymlaen, ac sydd yn ôl blog Saesnes yng Nghymru'n newyddion gwych, mae Ysgol Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin yn gobeithio troi'n Ysgol Benodedig Cyfrwng Cymraeg.

Ond mae'r Saesnes yng Nghymru wedi'i synnu. Yn ôl llawer o Gymry Cymraeg, meddai, dyw ysgolion uniaith Gymraeg ddim yn beth da o gwbl, ac maen nhw'n awyddus i'w plant ddysgu Mathemateg a Gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Saesneg.

Rwyf wedi ceisio cael 'mhen i rownd hyn meddai, a dwi methu deall rhesymeg y ddadl. Beth yw'r pwynt brwydro am gydraddoldeb dros eich iaith os ry' chi am danseilio eich holl ymdrechion gan gofnodi cafeat fod y Gymraeg yn israddol ambell waith?

Mae gofyn am ddysgu rhai pynciau trwy gyfrwng y Saesneg yn bradychu teimlad o israddoldeb dwfn yn yr enaid Cymreig.

Ond yn ôl Golwg, mae'r hen ddadleuon yn erbyn addysg drwy'r Gymraeg wedi eu gwanhau i raddau gyda dyfodiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy'n sicrhau cyfle i astudio pynciau amrywiol drwy'r Gymraeg, a gyda'r ysgol yn argymell newid a'r cyngor sir yn ei gefnogi, mae'n bosib y bydd hyn yn esiampl i ysgolion eraill.

Y Cymry ar fai?

Mewn datganiad digon dadleuol, yn ôl Simon Brooks, rydym yn clywed yn reit aml ei bod yn wyrthiol fod y Gymraeg wedi goroesi, ond gallai'r gymdeithas Gymraeg fod wedi dal ei thir yn rhwydd iawn - y Cymry eu hunain a oedd o blaid lledaeniad y Saesneg ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Nid gorthrwm y Saeson oedd yn gyfrifol am y methiant. Mae'r Cymry yn eu twyllo eu hunain os ydyn nhw'n meddwl mai'r 'Welsh Not' sydd ar fai.

Rhyddfrydwyr oedd cewri deallusol yr oes yn ôl Simon, a'u dymuniad oedd sicrhau cytgord rhwng Cymru a Lloegr. Ffordd o wireddu hynny oedd rhoi i'r Cymry yr un cyfleoedd â'r Saeson. A pha ffordd haws o wneud hyn na throi Cymry 'yn Saeson', trwy ddysgu'r Cymry i siarad Saesneg? Nid er mwyn darostwng y Cymry y daeth yr awydd i'w Seisnigo, ond er mwyn iddynt gael chwarae teg.

Image caption 'Mae'r Cymry yn eu twyllo eu hunain os ydyn nhw'n meddwl mai'r 'Welsh Not' sydd ar fai'

Y Wladfa

Fel y gŵyr pawb erbyn hyn, dianc wnaeth nifer o Gymry ganrif a hanner yn ôl, hanner ffordd o gwmpas y byd - i Batagonia. Mae'n rhyfedd, medd Dylan Iorwerth yn Golwg, y gafael sydd gan Batagonia ar ddychymyg llawer ohonon ni, ac mae hi erbyn hyn yn fath o Gymru procsi ar ein cyfer ni.

Ac er bod gan Cris Dafis, hefyd yn Golwg, barch mawr at bobl ym Mhatagonia sydd wedi cadw'r Gymraeg a'i throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, mae'r dathlu mawr eleni i nodi canmlwyddiant a hanner y wladfa'n peri cryn anesmwythder iddo wrth feddwl am ddathlu ymgais ein cenedl ninnau i drefedigaethu darn o dir estron.

Ac mae'n holi tybed faint o fyth mewn gwirionedd yw'r gred bod y Cymry ac Indiaid Brodorol yr ardal wedi cyd-dynnu'n dda a helpu ei gilydd yn eu caledi? I ba raddau y cafodd y Cymry eu defnyddio gan lywodraeth yr Ariannin i lacio gafael y brodorion ar eu tiroedd? Does neb yn trafod y cwestiynau hyn - am fod yr atebion o bosib yn rhy lletchwith.

Ac yn ôl Dylan Iorwerth, ddylen ni ddim dathlu ein bod ni, am ba bynnag resymau, wedi mynd â thiriogaeth pobloedd eraill ond mi allwn ni ddathlu, yn ddiweddarach, bod fersiwn o'n diwylliant ni wedi goroesi er gwaetha popeth.

Ond pwysicach na'r dathlu ydi deall.

Image copyright ALAMY
Image caption Man glanio'r Cymry cyntaf i gyrraedd Patagonia yn 1865