Teulu dyn ar goll ar Ynys Wyth 'methu symud 'mlaen'
- Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn o dde Cymru sydd ar goll ar Ynys Wyth wedi dweud nad ydyn nhw'n "gallu wynebu pethau a symud 'mlaen".
Roedd Michael Davies, 71 oed o'r Blaenau ym Mlaenau Gwent, wedi bod yn aros mewn gwesty gyda'i wraig pan ddiflannodd tua 21:30 ar 26 Mai.
Mae ei deulu wedi diolch i bobl sy' wedi chwilio amdano.
Dywedon nhw eu bod wedi bod am ymuno yn y chwilio ond ei bod yn anodd iddyn nhw ddychwelyd i'r ynys o Gymru.
'Brwydr'
Mewn datganiad dywedodd y teulu: "Mae pob dydd yn frwydr am ein bod ni'n teimlo nad ydyn ni yn gallu symud 'mlaen."
Diolchodd llefarydd ar ran yr heddlu y rhai gymrodd ran yn y chwilio ac ychwanegodd bod y llu yn parhau i weithio ar yr achos.
Does dim tystiolaeth i awgrymu bod Mr Davies yn gysylltiedig â throsedd ond mae pryder na all gael gafael ar feddyginiaeth ar gyfer pwysau gwaed.