Y Frenhines yn ymweld â Chaerdydd

Y Frenhines Image copyright PA
Image caption Bydd y Frenhines yn cyrraedd Caerdydd ar drên brenhinol

Fe fydd y Frenhines yn cyflwyno lliwiau newydd i Gatrawd y Cymry Brenhinol wrth iddi ymweld â Chaerdydd ddydd Iau.

Fe fydd 600 o filwyr yn gwneud y daith o'r castell i'r stadiwm fel rhan o'r dathliadau.

Bydd y Frenhines yn cyfarfod rhai o'r milwyr a'u teuluoedd wedi'r orymdaith.

"Lliwiau" milwyr yw'r fflagiau sy'n cael eu cario i frwydrau'r gatrawd.

Dywedodd Cyrnol y Catrawd, y Brigadydd Phillip Napier: "Fe fydd pob milwr sy'n rhan o'r digwyddiad yn deall hanes y Catrawd a beth mae'n golygu i fod yn Gymro Brenhinol."

Bydd nifer o ffyrdd ar gau yng nghanol Caerdydd ddydd Iau wrth i'r Frenhines ymweld â Stadiwm y Mileniwm.

Image caption Dywedodd y Brigadydd Phillip Napier bod y digwyddiad wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd

Mae aelod cabinet Cyngor Caerdydd am drafnidiaeth Ramesh Patel wedi gofyn i bobol i gynllunio eu taith o flaen llaw oherwydd cau'r ffyrdd.

I gael mwy o wybodaeth am y ffyrdd fydd ar gau ddydd Iau, cliciwch yma.