Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ie, ie; Nage, nage

Un o ddywediadau enwog George Orwell yw hwnnw ynghylch pwysigrwydd hanes. Dyma fe.

'He who controls the past controls the future. He who controls the present controls the past.'

Does dim un ornest wleidyddol yn hanes diweddar Prydain sydd â mwy o fytholeg yn ei chylch na refferendwm y Farchnad Gyffredin yn 1975 ac mae cefnogwyr a gwrthwynebwyr yr Undeb Ewropeaidd wrthi'n brysur yn ail ysgrifennu'r llyfrau hanes yn y gobaith o ddylanwadu ar ganlyniad y refferendwm sydd o'n blaenau.

Mae 'na ddau honiad a glywir yn aml ynghylch pleidlais 1975 yn arbennig gan y rheiny sy'n dymuno gweld Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Yn fy marn i mae un o'r honiadau yna'n un ddigon teg a'r llall yn gyfeiliornus.

Yr honiad cyntaf yw nad oedd y refferendwm yn ornest deg ac mae'n anodd dadlau i'r gwrthwyneb.

Cymerwch un enghraifft. Derbyniodd pob cartref ar draws y wlad dri llyfryn ynghylch y dewis a hynny ar bwrs y wlad. Cafwyd llyfryn yr un gan yr ymgyrch Ie a'r ymgyrch Na yn dadlau eu hachos a thaflen arall, un llawer iawn mwy lliwgar a drudfawr, yn 'amlinellu safbwynt y Llywodraeth' - neu mewn geiriau yn galw am bleidlais Ie.

Go brin y byddai'r comisiwn etholiadol yn caniatáu'r fath beth heddiw!

Yr ail honiad yw bod yr etholwyr 1975 wedi pleidleisio o blaid ymuno â marchnad gyffredin a dim byd arall, hynny yw mai pleidlais dros fasnach rydd ac nid pleidlais dros ryw fath o uwch wladwriaeth Ewropeaidd oedd canlyniad y refferendwm.

Mae'r honiad hwnnw'n anwybyddu ambell i ffaith allweddol.

Cyn 1973 roedd Prydain ynghyd â chwe gwlad Ewropeaidd arall yn aelodau o farchnad gyffredin EFTA, marchnad a sefydlwyd yn 1960, ddwy flynedd yn unig wedi sefydlu'r EEC. Roedd y muriau masnachol rhwng y ddwy farchnad bron wedi diflannu erbyn y 1970au ac roedd y rheiny oedd ar ôl yn bennaf wedi eu hanelu at rwystro mewnforion rhad o'r Gymanwlad Brydeinig rhag cyrraedd Ewrop trwy'r drws cefn.

Beth felly oedd cymhellion Prydain dros ymuno a chymuned yr EEC? Gellir eu crynhoi mewn un cymal o gytundeb Rhufain y syniad o'r "union sans cesse plus étroite" neu'r "ever closer union". Cewch chi lunio'r fersiwn Gymraeg.

Y pwynt oedd hyn. Ers ffurfio'r EEC roedd eu haelodau wedi mwynhau rhyw fath o wyrth economaidd tra roedd Prydain, er ymdrechion EFTA. o hyd yn ceisio pesychu a straffaglu ei fordd tuag at greu economi fodern ffyniannus. Dyma oedd y cwestiwn ar feddyliau pobl. A oeddem am fod yn rhan o'r wyrth - yn rhan o'r "union sans cesse plus étroite" neu beidio. Mewn neu mas?

Gallwch ddadlau bod yr etholwyr wedi gwneud y dewis anghywir ond nonsens yn honni eu bod wedi eu twyllo ynghylch natur y cwestiwn.

Yn 1973 cynhaliwyd cyngerdd yn theatr y Capitol yng Nghaerdydd, theatr fwyaf Cymru ar y pryd, i ddathlu'r ffaith bod Prydain wedi ymuno a'r Gymuned. 'Fanfare for Europe' oedd enw'r cyngerdd ac roeddwn i yno. Yn y Capitol y noson honno codwyd baner glas a melyn Cyngor Ewrop a pherfformiwyd yr anthem Ewropeaidd i nodi'r achlysur.

Roedd pawb yn deall arwyddocâd y peth a sarhad yw esgus yn wahanol.