Cwtogi cyllideb Cymru o £50 miliwn

arian

Mae Trysorlys y DU wedi cadarnhau y bydd cyllideb Cymru ar gyfer 2015-16 yn cael ei chwtogi o £50 miliwn.

Mae hynny'n llai na'r disgwyl - yr wythnos ddiwethaf roedd y prif weinidog, Carwyn Jones yn defnyddio'r ffigwr o £84m gan mai dyna oedd y disgwyl.

Fe fydd gan Llywodraeth Cymru felly gyfanswm o £15.3 biliwn i wario dros y flwyddyn i ddod.

Bydd gan Llywodraeth Cymru'r hawl i ohirio'r gostyngiad tan 2016-17, ond does dim cadarnhad hyd yma os fyddan nhw'n dewis gwneud hynny ai peidio.

Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys:

"Yn dilyn cwblhau adolygiad o gyllideb Whitehall, mae'r amcanrif o effaith Fformiwla Barnett ar gyllidebau'r cyrff gweinyddol datganoledig hefyd wedi'u cwblhau.

"Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi ysgrifennu at Weinidog Cyllid Cymru i'w hysbysu o'r penderfyniad."

Mae amcanrif yn seiliedig ar sut y bydd toriadau yn Whitehall yn newid faint o arian a ddaw i Gymru o Fformiwla Barnett.

Dyma'r fformiwla sy'n pennu faint o arian ddaw i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon o ganlyniad i wariant llywodraeth y DU yn Lloegr yn unig. Mae rhai wedi galw am ddiddymu'r fformiwla am nad yw'n ariannu'r gwledydd datganoledig mewn ffordd deg.

'Newyddion drwg i Gymru'

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd y gweinidog cyllid Jane Hutt:

"O'r diwedd rydym wedi cael cadarnhad o'r ffigwr rai dyddiau ar ôl cyhoeddiad y Canghellor. Er bod y cwtogiad yn llai na'r hyn yr oeddem wedi ei ddisgwyl mae'n dal yn newyddion drwg i Gymru.

"Dim ond wythnos yn ôl fe ddywedodd y prif weinidog bod angen i Gymru warro mwy ar iechyd, ac eto maen nhw wedi torri ein cyllideb eto. Bydd hynny ar ben y cwtogi o 8% mewn termau real i'n cyllideb ers dechrau'r tymor cynulliad yma yn cael effaith diamheuol ar y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym yn rhoi cymaint o bwyslais arnynt.

"Bydd hefyd yn cael effaith hirdymor ar economi Cymru a'n hisadeiledd hanfodol.

"Mae'n siomedig bod y Canghellor wedi dewis gwneud cyhoeddiadau bychain o flaen llaw cyn Cyllideb yr Haf.

"Fel llywodraeth fe fyddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i warchod pobl Cymru rhag y toriadau sydd wedi eu gorfodi arnom, ac yn ceisio sicrhau setliad ariannol tecach i Gymru."

Straeon perthnasol