Nid y Saeson sydd ar fai!

llyfrau gleision
Image caption Fyddai sefyllfa'r Gymraeg wedi bod yn wahanol heb adroddiadau dadleuol y llyfrau gleision?

Fyddai'r iaith Gymraeg yn gryfach heddiw petai cenedlaetholdeb Gymreig wedi ennill ei thir yn y G19fed?

Dyna un o'r cwestiynau y mae'r Dr Seimon Brooks yn ymdrin ag ef yn ei gyfrol ddiweddaraf, Pam na fu Cymru, fydd yn cael ei chyhoeddi ym mis Mehefin. Mae o wedi trafod y cwestiwn gyda Cymru Fyw:

Lledaenaid y Saesneg

Un o gwestiynau mawr hanes Cymru yw pam na ddatblygodd mudiad cenedlaethol Cymreig o'r iawn ryw yng Nghymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg?

Fasa mudiad o'r fath ddim wedi arwain at annibyniaeth - roedd y Deyrnas Gyfunol yn wladwriaeth gref eithriadol - ond gallai fod wedi ennill digon o gonsesiynau i gadw Cymru'n wlad ble mae'r mwyafrif yn siarad Cymraeg.

Yn wir, o edrych ar hynt ieithoedd tebyg i'r Gymraeg mewn rhannau eraill o Ewrop yn yr un cyfnod, dyna y buasai rhywun wedi ei ddisgwyl.

Dyma Oes Cenedlaetholdeb, ac ar hyd a lled Ewrop roedd gwledydd bychain yn mynnu hawliau iaith - hawl i addysg yn y famiaith, a'r hawl i'w hiaith gael ei defnyddio gan y wladwriaeth.

Eto, doedd fawr o genedlaetholdeb yng Nghymru, ac erbyn diwedd y ganrif roedd gan y Cymry Cymraeg lai o hawliau iaith nag unrhyw genedl debyg.

Y Saeson ddim ar fai

Y diffyg yw'r rheswm am wendid y Gymraeg heddiw. Rydym yn clywed yn reit aml ei bod yn wyrthiol fod y Gymraeg wedi goroesi, ond gallai'r gymdeithas Gymraeg fod wedi dal ei thir yn rhwydd iawn.

A'r syndod yw hyn! Nid gorthrwm y Saeson oedd yn gyfrifol am y methiant. Mae'r Cymry yn eu twyllo eu hunain os ydyn nhw'n meddwl mai'r 'Welsh Not' sydd ar fai.

Image caption Nid y 'Welsh Not' sydd ar fai am wendid y Gymraeg heddiw, medd Seimon Brooks

Y Cymry eu hunain a oedd o blaid lledaeniad y Saesneg.

Pam fod y Cymry wedi chwennych hyn? Roedd Prydain yn unigryw iawn am mai hi oedd y wlad fwyaf rhyddfrydol yn Ewrop, a Chymru oedd y rhan fwyaf rhyddfrydol o Brydain.

A rhyddfrydwyr oedd cewri deallusol yr oes - dynion fel J. S. Mill a Matthew Arnold, ac yng Nghymru Samuel Roberts Llanbrynmair, Gwilym Hiraethog a Henry Richard.

Image caption Gwilym Hiraethog a Samuel Roberts, dau o feddyliwyr mwyaf Cymru yn y G19fed

'Gwaddol cymhleth'

Dymuniad rhyddfrydwyr oedd sicrhau cytgord rhwng Cymru a Lloegr, a ffordd o wireddu hynny oedd rhoi i'r Cymry yr un cyfleoedd â'r Saeson. A pha ffordd haws o wneud hyn na throi Cymry 'yn Saeson', trwy ddysgu'r Cymry i siarad Saesneg?

Nid er mwyn darostwng y Cymry y daeth yr awydd i'w Seisnigo, ond er mwyn iddynt gael chwarae teg.

Wrth gwrs, mewn gwladwriaeth lai rhyddfrydol, ni fuasai'r un awydd i roi chwarae teg!

Roedd dysgu Saesneg yn rhan annatod o wleidyddiaeth radical y cyfnod am fod hyn yn llesol i'r Cymry - yn llesol iddynt fel unigolion, nid fel cenedl.

Gan hynny, mae gwaddol radicaliaeth yng Nghymru'n fwy cymhleth na mae llawer yn ei dybio. Yn wir, gellid dadlau y byddai Cymru yn lle Cymreiciach heddiw pe bai'n wlad fwy ceidwadol.

Trwy eu cefnogaeth i'r Blaid Ryddfrydol, ac yna yn yr ugeinfed ganrif i'r Blaid Lafur, uniaethodd y Cymry â radicaliaeth Brydeinig. Yn ddiweddar, bu Plaid Cymru hefyd yn cefnogi radicaliaid Prydeinig - yn y Blaid Werdd, er enghraifft.

Ond mae hanes Cymru yn awgrymu fod hybu radicaliaeth Brydeinig yn debyg o arafu datblygiad cenedlaetholdeb Cymreig.

A gyda'r Alban yn mynnu mwy a mwy rymoedd iddi'i hun, ymddengys fod Cymru yn cael ei gadael ar ôl unwaith eto - yn union fel yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Bydd llyfr diweddaraf Simon Brooks, Pam na fu Cymru, yn cael ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru ym mis Mehefin.

Image copyright Simon Brooks

Hefyd ar y BBC